Cyfarfodydd

P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-885 Cludiant Cyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol i Ddinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd  nad oes fawr ddim y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni mwyach yn y cyswllt hwn ar hyn o bryd, a hynny o ystyried y wybodaeth a gafwyd gan y Gweinidog a bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio trefniadau rheoleiddio gwasanaethau bysiau drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus arfaethedig. Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i awgrymu bod y deisebwyr yn ymgysylltu â’r broses o graffu ar y Bil ac yn lobïo Aelodau'r Cynulliad i osod unrhyw welliannau perthnasol bryd hynny.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i rannu'r sylwadau ychwanegol a roddwyd gan y deisebwyr, a gofyn am ymateb i'r pwyntiau ynghylch sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch i bobl ag anableddau dysgu ac ymgysylltu'n uniongyrchol â'r rhai yr effeithir arnynt.