Cyfarfodydd
NDM7059 Dadl Plaid Cymru - Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd
NDM7059
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys i refferendwm
cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog bod y
Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod
opsiwn ar y papur pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru;
1. Yn cydnabod ei bod
bron yn dair blynedd ers i bobl Cymru bleidleisio i adael yr UE ac nad ydym yn
nes at gyflawni eu dymuniadau.
2. Yn gresynu fod
Aelodau Seneddol o'r ddwy brif blaid wedi ceisio atal y DU rhag gadael yr UE,
er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwario £9miliwn ar daflen a oedd
yn addo cadw at ganlyniadau'r refferendwm a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol a
etholwyd yn 2017 yn sefyll ar sail y maniffestos a oedd yn addo cyflawni
BREXIT.
3. Yn galw ar Brif
Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig i gyflawni dymuniadau'r bobl a gadael yr UE
ddim hwyrach na 31 Hydref 2019.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a
rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a
gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid
gweithredu ar ganlyniadau refferenda bob amser.
[Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant
3 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ar ôl 'barhau yn aelod
o’r Undeb Ewropeaidd' rhoi 'ac yn dweud unwaith eto y byddai Brexit heb
gytundeb yn ganlyniad trychinebus a chwbl annerbyniol.'
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7059 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys
i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog
bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod opsiwn ar y papur
pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
16 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.