Cyfarfodydd
NDM7055 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr Economi
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr Economi
NDM7055 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i wireddu potensial economaidd Cymru dros yr
20 mlynedd diwethaf.
2.
Yn nodi nad yw'n credu bod Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd
Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau gwelliant sylweddol yn economi
Cymru.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella'r economi, gan
gynnwys:
a)
symleiddio a gwella mynediad at gymorth busnes;
b)
sicrhau bod polisi yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol effeithiol;
c)
diwygio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig;
d)
uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd; ac
e)
gwella seilwaith.
Ffyniant
i bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn nodi’r camau a
gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr ugain mlynedd
diwethaf, sydd wedi arwain at:
a) 300,000 yn fwy o
bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999;
b) cyfraddau
anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i gyfartaledd y DU
am y tro cyntaf erioed;
c) ostyngiad o dros
hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau;
d) y gyfran o bobl o
oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o un ym mhob pum
person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli;
e) y nifer uchaf
erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru.
2. Yn nodi cynlluniau
Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr
Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad mawr mewn
seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5 biliwn, yn
ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn.
3. Yn cydnabod llawer
o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a ffocws Llywodraeth
Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn 2017 ar feithrin
economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol.
4. Yn cydnabod
pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn genedl gwaith
teg.
5. Yn gresynu nad yw
Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd diwethaf a’i bod wedi
canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y cynlluniau ar gyfer
morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect Wylfa.
Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cynnull
uwchgynhadledd economaidd genedlaethol i drafod dyfodol yr economi gyda
rhanddeiliaid allweddol a diwydiant; a
b) deddfu ar gyfer bil
adnewyddu rhanbarthol, a fydd yn gorfodi'r llywodraeth i ystyried tegwch rhanbarthol
a chydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau ar wariant.
Gwelliant
3 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder am
ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit.
Gwelliant
4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi methiant
Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar Gronfa Rhannu
Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei lle fel elfen
allweddol o economi Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio.
NDM7055 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i wireddu potensial economaidd Cymru dros yr
20 mlynedd diwethaf.
2.
Yn nodi nad yw'n credu bod Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd
Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau gwelliant sylweddol yn
economi Cymru.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella'r economi, gan gynnwys:
a)
symleiddio a gwella mynediad at gymorth busnes;
b)
sicrhau bod polisi yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol effeithiol;
c)
diwygio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig;
d)
uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd; ac
e)
gwella seilwaith.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
1 |
33 |
46 |
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 -
Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
1.
Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr
ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at:
a)
300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999;
b)
cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i
gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed;
c) gostyngiad o dros
hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau;
d)
y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o
un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli;
e)
y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru.
2.
Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun
Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad
mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5
biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn.
3.
Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a
ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn
2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol.
4.
Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn
genedl gwaith teg.
5.
Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd
diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y
cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect
Wylfa.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
21 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cynnull uwchgynhadledd economaidd genedlaethol i drafod dyfodol yr economi gyda
rhanddeiliaid allweddol a diwydiant; a
b)
deddfu ar gyfer bil adnewyddu rhanbarthol, a fydd yn gorfodi'r llywodraeth i
ystyried tegwch rhanbarthol a chydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau ar
wariant.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
7 |
13 |
29 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
2 |
13 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar
Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei
lle fel elfen allweddol o economi Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
2 |
10 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr
ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at:
a)
300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999;
b)
cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i
gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed;
c) gostyngiad o dros
hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau;
d)
y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o
un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli;
e)
y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru.
2.
Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun
Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad
mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5
biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn.
3.
Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a
ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn
2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol.
4.
Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn
genedl gwaith teg.
5.
Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd
diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y
cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect
Wylfa.
6.
Yn mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit.
7.
Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar
Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei
lle fel elfen allweddol o economi Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.