Cyfarfodydd

NDM7048 Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru - Gwerthfawrogi ein Hiechyd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru - Gwerthfawrogi ein Hiechyd

NDM7048 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2018-19 ‘Gwerthfawrogi ein Hiechyd’ a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2019 ac yn croesawu yn arbennig:

a) sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol ynghylch llwyddiannau, cyfleoedd a heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella iechyd pobl Cymru;

b) ei sylw ar bwysigrwydd sicrhau’r gwerth gorau posib am arian o’r adnoddau sydd ar gael mewn gofal iechyd;

c) pwysigrwydd ymchwil i wella iechyd ac economi Cymru; a 

d) ei asesiad o’r prif fygythiadau i iechyd sydd yn ein hwynebu.

Adroddiad Blynyddol 2018/19 Prif Swyddog Meddygol Cymru

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y methiant parhaus i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â llygredd aer fel ffordd o wella iechyd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7048 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2018-19 ‘Gwerthfawrogi ein Hiechyd’ a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2019 ac yn croesawu yn arbennig:

a) sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol ynghylch llwyddiannau, cyfleoedd a heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella iechyd pobl Cymru;

b) ei sylw ar bwysigrwydd sicrhau’r gwerth gorau posib am arian o’r adnoddau sydd ar gael mewn gofal iechyd;

c) pwysigrwydd ymchwil i wella iechyd ac economi Cymru; a

d) ei asesiad o’r prif fygythiadau i iechyd sydd yn ein hwynebu.

Adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol: 2018 i 2019

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y methiant parhaus i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â llygredd aer fel ffordd o wella iechyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

27

42

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7048 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2018-19 ‘Gwerthfawrogi ein Hiechyd’ a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2019 ac yn croesawu yn arbennig:

a) sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol ynghylch llwyddiannau, cyfleoedd a heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella iechyd pobl Cymru;

b) ei sylw ar bwysigrwydd sicrhau’r gwerth gorau posib am arian o’r adnoddau sydd ar gael mewn gofal iechyd;

c) pwysigrwydd ymchwil i wella iechyd ac economi Cymru; a

d) ei asesiad o’r prif fygythiadau i iechyd sydd yn ein hwynebu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.