Cyfarfodydd
NDM7002 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Prydau Ysgol Iach
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Prydau Ysgol Iach
NDM7002
Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gall
prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac ymddygiad
cadarnhaol disgyblion.
2. Yn nodi bod
adroddiad y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng
Nghymru rhag Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw
nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n
iach mewn ysgolion a gynhelir.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) egluro ai
cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw
safonau prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael
eu monitro; a
b) amlinellu pa gamau
sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei
gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol.
'Siarter
Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi'
Bwyta’n
iach mewn ysgolion a gynhelir: Canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff
llywodraethu'
Cyd-gyflwynwyr
Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Cefnogwyr
Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
David Rowlands (Dwyrain De
Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
Russell George (Sir
Drefaldwyn)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.35
NDM7002 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gall
prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac
ymddygiad cadarnhaol disgyblion.
2. Yn nodi bod adroddiad
y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag
Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw nifer sylweddol o
ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion
a gynhelir.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) egluro ai cyfrifoldeb
llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw safonau
prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael eu
monitro; a
b) amlinellu pa gamau
sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei
gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.