Cyfarfodydd

P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, o ystyried y gwaith a’r ffocws parhaus ar y mater a amlinellwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd ir deisebydd am ei waith yn ymchwilio i’r anghenion pwysig hyn a thynnu sylw atynt.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at y ffaith bod gwaith i’w wneud, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau presennol, i sicrhau bod gan y grŵp o bobl agored i niwed y mae'r mater hwn yn effeithio arnynt y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i'w cadw'n ddiogel yng ngoleuni lefelau parhaus o allgáu digidol.

 

 


Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hyn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ofyn beth arall ellir ei wneud gan Lywodraeth Cymru, yn ei barn hi, i gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn syn dioddef trais yn y cartref.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i:

·         ofyn i’w swyddogion ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebwyr ar y pwyntiau y maent yn eu codi mewn perthynas â manylion hyfforddiant ac arweiniad proffesiynol, a sut y gall gwasanaethau adlewyrchu anghenion pobl hŷn sy’n profi cam-drin domestig yn well; a

·         gofyn pa gyfran o’r cyllid sy’n cael ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau allgymorth, y gall pobl hŷn eu cyrchu, ac a yw’r gwasanaethau hyn ar gael ym mhob rhan o Gymru.

 

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig – galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

·         ofyn am ymateb i faterion a godwyd gan y deisebwyr a’r Comisiynydd Pobl Hŷn, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol a'r alwad am gynllun gweithredu cenedlaethol;

·         gofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r gwaith sy'n cael ei ddatblygu gan y Comisiynydd Pobl Hŷn; a

·         gofyn am roi canllawiau i sefydliadau perthnasol mewn perthynas â defnyddio delweddau cynhwysol mewn deunyddiau sy'n hyrwyddo gwasanaethau cam-drin domestig.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn:

o   darparu'r sylwadau manwl a roddwyd gan y deisebwyr;

o   gofyn am ymateb pellach i'r materion a godwyd, yn enwedig y pryderon nad yw gwasanaethau neu ddeunydd cam-drin domestig yn aml yn cwmpasu profiadau pobl hŷn;

o   gofyn i'r Dirprwy Weinidog pa ddarpariaethau sydd ar waith ar gyfer dynion hŷn sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath.

·         ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ofyn am ei hymateb i'r materion a godir yn y ddeiseb a gofyn iddi rannu rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae'n bwriadu ei wneud i atal cam-drin pobl hŷn.