Cyfarfodydd

P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymrus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r newidiadau a wnaed i Drwyddedau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys cael gwared ar rywogaethau rhestredig coch ac ambr, a’r Adolygiad Trwyddedu Adar Gwyllt ehangach sy’n cael ei gynnal yn 2020.

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         nodi bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal adolygiad o'r holl drwyddedu adar gwyllt yn ystod 2020;

·         ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i'w annog i ystyried pwysigrwydd bioamrywiaeth fel rhan o'r adolygiad hwnnw; a

·         thynnu sylw y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y ddeiseb ac awgrymu bod materion yn ymwneud â bioamrywiaeth a chydbwyso materion sy’n cystadlu â’i gilydd o fewn cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu codi mewn sesiwn dystiolaeth gyda'r sefydliad yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am ragor o sylwadau neu wybodaeth gan y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth am nifer y trwyddedau a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a fyddai'n caniatáu lladd rhywogaethau a gategoreiddiwyd yn Goch ac Amber ar restrau'r RSPB.

 

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am farn y sefydliad ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb.