Cyfarfodydd
NDM7036 Dadl Plaid Cymru - Newid Hinsawdd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Newid Hinsawdd
NDM7036
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi rhybudd
llym gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5
gradd o gynhesu.
2. Yn nodi ymhellach
fod cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth,
a bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i
fywoliaeth pobl ddirifedi ar draws y byd.
3. Yn cydnabod bod
ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.
4. Yn croesawu'r
ffaith bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys
technoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau
di-garbon.
5. Yn cefnogi
penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion
yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer
allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.
6. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 5 a 6 a
rhoi yn eu lle:
Yn croesawu'r rôl
arweiniol y mae'r DU wedi'i chwarae wrth weithio tuag at fargen fyd-eang i
leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy Gytundeb Paris ac yn nodi bod y DU,
ers 1990, wedi torri allyriadau fwy na 40 y cant tra'n tyfu'r economiy gan fwy
na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl G7
arall.
Yn gresynu mai dim ond
19 y cant y mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau yn ystod y cyfnod rhwng
1990 a 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a
Llywodraeth y DU i sicrhau y cyrhaeddir targedau newydd o ran allyriadau carbon
sy'n gyfreithiol orfodol wrth symud ymlaen yng Nghymru.
Cytundeb
Paris (Saesneg yn unig)
Gwelliant
2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cymeradwyo
Llywodraeth Cymru am:
a) ddwyn ymlaen Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r
gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;
b) ymrwymo’r sector
cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector
cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted
â bod modd gwneud hynny o ran contractau; a
c) edrych ar phob
opsiwn ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda bob sector a
chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.
Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7036 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi rhybudd llym
gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o
gynhesu.
2. Yn nodi ymhellach fod
cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a
bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth
pobl ddirifedi ar draws y byd.
3. Yn cydnabod bod
ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.
4. Yn croesawu'r ffaith
bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg
adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.
5. Yn cefnogi
penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion
yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer
allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.
6. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
13 |
29 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 5 a 6 a
rhoi yn eu lle:
Yn croesawu'r rôl
arweiniol y mae'r DU wedi'i chwarae wrth weithio tuag at fargen fyd-eang i
leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy Gytundeb Paris ac yn nodi bod y DU, ers 1990, wedi torri
allyriadau fwy na 40 y cant tra'n tyfu'r economiy gan fwy na dwy ran o dair,
sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl G7 arall.
Yn gresynu mai dim ond 19
y cant y mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau yn ystod y cyfnod rhwng 1990 a
2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a
Llywodraeth y DU i sicrhau y cyrhaeddir targedau newydd o ran allyriadau carbon
sy'n gyfreithiol orfodol wrth symud ymlaen yng Nghymru.
Cytundeb Paris (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
1 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cymeradwyo
Llywodraeth Cymru am:
a) ddwyn ymlaen Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r gweithredu ar
fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;
b) ymrwymo’r sector
cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector
cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted
â bod modd gwneud hynny o ran contractau; ac
c) edrych ar bob opsiwn
ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda phob sector a
chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.
Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
1 |
23 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7036 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi rhybudd llym
gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o
gynhesu.
2. Yn nodi ymhellach fod
cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a
bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth
pobl ddirifedi ar draws y byd.
3. Yn cydnabod bod
ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.
4. Yn croesawu'r ffaith
bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg
adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.
5. Yn cefnogi
penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion
yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer
allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.
6. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.
7. Yn cymeradwyo
Llywodraeth Cymru am:
a) ddwyn ymlaen Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r
gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;
b) ymrwymo’r sector
cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector
cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted
â bod modd gwneud hynny o ran contractau; ac
c) edrych ar bob opsiwn
ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda phob sector a
chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
12 |
2 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.