Cyfarfodydd
NDM7028 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Timau Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/04/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/04/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Timau Iechyd Meddwl Cymunedol
NDM7028
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Cyd Adolygiad
Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd
Meddwl Cymunedol.
2. Yn nodi ymhellach y
nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.
3. Yn gresynu at y
diffyg cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd
meddwl.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl
cymunedol, a mynediad ato, gan gynnwys:
a) cynyddu gwariant ar
wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y
Cynulliad;
b) sicrhau bod timau
argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys
gyda byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth
ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y
gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod yr angen i
sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd
meddwl;
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a
gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys:
a) parhau i gynyddu’r
gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at
ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn
2019;
b) sicrhau bod
trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym
mhob un o’r adrannau achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys
gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth
ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y
gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 4, ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
cyhoeddi data
perfformiad ystyrlon ar amseroedd aros, gan gynnwys grwpiau oedran a diagnosis,
fel y gall hawliadau'n ymwneud â gwella gael eu gwirio'n annibynnol.
Gwelliant
3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 4, ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sicrhau bod timau
iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn
pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a
phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl .
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
17.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7028 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Cyd Adolygiad
Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd
Meddwl Cymunedol.
2. Yn nodi ymhellach y
nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.
3. Yn gresynu at y diffyg
cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd meddwl.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella'r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol, a
mynediad ato, gan gynnwys:
a) cynyddu gwariant ar
wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y
Cynulliad;
b) sicrhau bod timau
argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda
byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr
y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth
ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y
gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng
gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a
ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth
hwnnw, gan gynnwys:
a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau
iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad,
yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019;
b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i
argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion
brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella
cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff;
a
d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau
iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau
posibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
7 |
15 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd
pwynt 4:
cyhoeddi data perfformiad ystyrlon ar amseroedd
aros, gan gynnwys grwpiau oedran a diagnosis, fel y gall hawliadau'n ymwneud â
gwella gael eu gwirio'n annibynnol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
28 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd
pwynt 4:
sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn
cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn
erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad
sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
1 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7028 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Cyd Adolygiad
Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd
Meddwl Cymunedol.
2. Yn nodi ymhellach y
nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.
3. Yn cydnabod yr angen i
sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd
meddwl;
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a
gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys:
a) parhau i gynyddu’r
gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at
ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn
2019;
b) sicrhau bod trefniadau
ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r
adrannau achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys
gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer
defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth
ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y
gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
e) sicrhau bod timau
iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn
pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a
phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
4 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.