Cyfarfodydd

P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn dilyn cadarnhad y bydd cynigion i gryfhau darpariaeth i ddisgwyl cyfleusterau newid babanod mewn toiledau dynion a menywod yn cael eu cynnwys yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sydd ar ddod, ar gyfleusterau newid mewn toiledau, ac estynnwyd llongyfarchion i’r deisebydd ar yr ymgyrch.

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros am wybodaeth bellach gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y posibilrwydd o gynnwys cynigion i gryfhau'r ddarpariaeth i ddisgwyl cyfleusterau newid babanod mewn toiledau dynion a thoiledau menywod mewn ymgynghoriad sydd i ddod ar newidiadau i'r Rheoliadau Adeiladu, cyn ystyried gweithredu pellach ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb i ohebiaeth ddiweddar y mae wedi’i hysgrifennu mewn perthynas â chynyddu’r ddarpariaeth o doiledau lleoedd newid, cyn ystyried ymhellach sut y gall polisïau cynllunio ymdrechu i wella’r ystod o gyfleusterau toiledau sydd ar gael.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad mewn perthynas ag awgrym bod arwyddion ar sail rhyw yn y Senedd.

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ofyn sut mae'r llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r canllawiau statudol ar ddarparu cyfleusterau newid babanod os nad yw'n bwriadu craffu ar strategaethau toiledau lleol.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn:

·         rhannu sylwadau'r deisebydd, a gofyn am eglurhad ynghylch y cyfeiriad yn y safonau dylunio at beidio â rhoi cyfleusterau newid cewynnau mewn toiledau ar gyfer 'y ddwy ryw';

·         gofyn pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud o'r strategaethau toiledau lleol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol;

·         gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw drafodaethau â'r sector preifat, neu â chyrff cynrychioliadol, ynghylch darparu cyfleusterau newid cewynnau mewn mannau sy'n agored i'r cyhoedd; a 

·         gofyn am wybodaeth am gamau gweithredu perthnasol a gymerwyd yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2012, Goblygiadau iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus.