Cyfarfodydd

P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt gan y deisebydd, lansiad y Siarter Gwneud Lle ym mis Medi ac ymrwymiad y Gweinidog i gynnwys sefydliadau sy'n cefnogi pobl ddigartref mewn gwaith perthnasol ar y mater hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a darparu manylion y dystiolaeth a ystyriwyd gan y Pwyllgor i’r deisebwyr.

 

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am aelodaeth Partneriaeth Creu Lleoedd Cymru a chael sicrwydd y bydd sefydliadau priodol sy'n cefnogi pobl ddigartref yn cymryd rhan yn y gwaith hwn, gyda'r bwriad o gau’r ddeiseb os ceir digon o sicrwydd.

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i rannu'r dystiolaeth a gafwyd oddi wrth elusennau ac i ofyn a yw hi wedi ystyried ymhellach a ellid gwneud “cyfeiriad priodol at ddefnyddio pensaernïaeth elyniaethus” mewn cyngor a chanllawiau ar gyfer gweithredu ‘agenda creu lleoedd’ y Llywodraeth, fel y cyfeiriwyd ato o'r blaen, ac a fyddai hi'n ystyried gwneud datganiad clir i awdurdodau lleol na ddylai nodweddion pensaernïaeth elyniaethus gael eu defnyddio yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ei hymateb i’r materion a godwyd yn y ddeiseb a’r dystiolaeth a ddaw i law hyd yn hyn.

 

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at elusennau digartrefedd i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac effaith a nifer yr achosion o bensaernïaeth elyniaethus i atal cysgu allan yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i:

·         ofyn am ei barn yn benodol mewn perthynas â rhinweddau ac ymarferoldeb galwad y ddeiseb am wahardd neu foratoriwm ar y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus yng Nghymru;

·         gofyn iddi ystyried cyflwyno nodyn cyngor technegol ynghylch y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus; a

·         gofyn iddi pa fesurau rheoli ym maes cynllunio y gellid eu gweithredu er mwyn darparu goruchwyliaeth agosach ar gread pensaernïaeth elyniaethus yn ôl-weithredol.