Cyfarfodydd

P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a’r deisebydd.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan nad yw’r targed a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yn un statudol, a chytunodd i gau’r ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i:

Wneud cais am amserlen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llunio’r cynllun sector a grybwyllwyd yng ngohebiaeth y Gweinidog;

Gwneud cais am fanylion gan y Gweinidog ynghylch y mathau gwahanol o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a chyfran y gwastraff sy’n cael ei drin yn y modd hwn; a

Chomisiynu darn byr o waith ymchwil ar y mater gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.

 


Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
i ysgrifennu at y Byrddau Iechyd Lleol i holi eu barn am y mater.