Cyfarfodydd

P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb oddi wrth y deisebydd, ond i gau'r ddeiseb os na cheir ymateb o fewn chwe wythnos.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i holi a fyddai modd i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am y peilot, gan bwysleisio bod y ddeiseb gan rieni o Fro Morgannwg.


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol unwaith y ceir gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i ofyn am gadarnhâd cyn gynted â phosibl gan Lywodraeth Cymru ar yr amserlen ar gyfer cynnal ymchwiliad pellach i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ar draws awdurdodau lleol.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i wahodd y Gweinidog a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi tystiolaeth lafar ar sut mae darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar yn ystyried anghenion rhieni sy’n gweithio.

 


Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau;
i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru, i holi eu barn am y mater; ac
i gyhoeddi ymgynghoriad wedi’i dargedu.