Cyfarfodydd

P-05-863 Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ddarparu sylwadau pellach y deisebydd i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a gofyn am ddiweddariad ymhen chwe mis ynghylch y gwaith i gyflawni mentrau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

 

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         aros am farn y deisebwyr am y wybodaeth a ddarparwyd, a

·         chadw golwg manwl ar unrhyw ddatblygiadau pellach ar y pwnc hwn. 

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-863 Darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ofyn am fwy o fanylion am y modd y mae'r cyllid o £1 miliwn a ddyrannwyd hyd at 2020 yn cael ei wario a sut y mae'n helpi i leihau tlodi mislif; ac

·         ysgrifennu at Lywodraeth yr Alban i ofyn am wybodaeth am y modd y mae’n gweithredu ei hymrwymiadau i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim mewn lleoliadau addysg, ac i ddarparu cymorth penodol i ferched o gartrefi incwm isel, ynghyd ag unrhyw wybodaeth y gallant ei darparu am effaith y mesurau hyn.

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-863 Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb; ac

  • ystyried gofyn i'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip gyfarfod â'r deisebydd i drafod y materion a godwyd yn y ddeiseb yn nes ymlaen.