Cyfarfodydd

NDM6921 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cyfraddau Treth Imcwm Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyfraddau Treth Imcwm Cymru

NDM6921 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

'ond yn pwysleisio blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi busnes cynhenid.'

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:

Yn annog trafodaeth sifig aeddfed ynglyn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethiannol datganoledig newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru.

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6921 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

8

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.