Cyfarfodydd

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr hyn a ddysgwyd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (24 Medi 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/05/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd – Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-12-19 Papur 6 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu drwy e-bost i'w chytuno ganddynt.

 


Cyfarfod: 25/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Gwersi a Ddysgwyd: Trafod materion allweddol

PAC(5)-09-19 Papur 7 – Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd lechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(5)-09-19 Papur 8 – Llythyr gan Brif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (14 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a godwyd drwy gydol yr ymchwiliad a chytuno ar feysydd i'w cynnwys yn Adroddiad y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Sesiwn Dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-06-19 Papur 1 – Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

 

Mark Polin – Cadeirydd BIPBC

Gary Doherty – Prif Weithredwr BIPBC

Andy Roach – Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, BIPBC

Gill Harris – Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth, BIPBC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Mark Polin, Cadeirydd; Gary Doherty, Prif Weithredwr; Andy Roach, Cyfarwyddwr Cyswllt Sicrhau Ansawdd, a Deborah Carter, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel rhan o'r ymchwiliad i’r hyn a ddysgwyd o'r Adolygiad Llywodraethu o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

3.2 Cytunodd Gary Doherty i gadarnhau union nifer y meddygfeydd sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd gan y Bwrdd Iechyd, ynghyd â'u lleoliad.


Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Gwybodaeth Ychwanegol gan BIPBC am wariant ar staff asiantaeth yn Is-adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (13 Chwefror 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.


Cyfarfod: 04/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.


Cyfarfod: 04/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Sesiwn Dystiolaeth gyda Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-03-19 Papur 1 – Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru – sylwadau ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, “Materion ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Chwefror 2016”

PAC(5)-03-19 Papur 2 - Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru – pecyn briffio

 

Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Mark Thornton – Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Garth Higginbotham – Is-gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Geoff Ryall-Harvey, y Prif Swyddog; Mark Thornton, y Cadeirydd, a Garth Higginbotham, Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i'r hyn a ddysgwyd yn sgil Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

3.2 Cytunodd Geoff Ryall-Harvey i anfon rhagor o wybodaeth ynghylch:

 

·         Y rhaglen o ymweliadau â chyfleusterau iechyd meddwl ers mis Mai 2017 ynghyd ag unrhyw adroddiadau perthnasol;

·         Data sy'n ymwneud â nifer y staff asiantaeth a gyflogir gan wasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a

·         Chopi o adroddiad y Cyngor Iechyd Cymuned, Ein Bywydau ar Stop.


Cyfarfod: 28/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 28/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd - Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-02-19 Papur 1 – Papur Lywodraeth Cymru

PAC(5)-02-19 Papur 2 - Llythyr gan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (22 Ionawr 2019)

 

Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Jo Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

Alan Brace - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethu GIG a Gwasanaethau Corfforaethol; ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r hyn a ddysgwyd o Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

3.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon dadansoddiad o arolwg staff y bwrdd iechyd sy'n dangos lefel y gwelliant dros y tair blynedd diwethaf. Cytunodd hefyd i anfon manylion o arolygon staff byrddau iechyd eraill er mwyn rhoi darlun ar draws Cymru.