Cyfarfodydd
NDM6906 Dadl: Adroddiad Holtham ar Dalu am Ofal Cymdeithasol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/09/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/09/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
6 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwaith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
6.1 Nododd
y Pwyllgor y llythyr.
Cyfarfod: 08/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 08/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Adroddiad Holtham ar Dalu am Ofal Cymdeithasol
NDM6906 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) y pwysau ar wasanaethau
cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;
b) yr adroddiad a
gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; ac
c) bod Llywodraeth
Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n defnyddio
adroddiad Holtham i lywio ei waith.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren
Millar (Gorlloewin Clwyd)
Dileu is-bwynt a) a
rhoi yn ei le:
'y pwysau ar
wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r
newid yn y boblogaeth;'
Gwelliant 2 – Darren
Millar (Gorlloewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr
angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal
cymdeithasol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.33
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) y pwysau ar
wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;
b) yr adroddiad a
gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; a
c) bod Llywodraeth
Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n
defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt a) a
rhoi yn ei le:
'y pwysau ar
wasanaethau cymdeithasol sy'n deillio o setliadau llywodraeth leol gwael a'r newid
yn y boblogaeth;'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
1 |
30 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr
angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal
cymdeithasol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
1 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6906 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) y pwysau ar
wasanaethau cymdeithasol sy’n deillio o gyni a’r newid yn y boblogaeth;
b) yr adroddiad a
gomisiynwyd oddi wrth yr Athro Gerald Holtham, ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’; a
c) bod Llywodraeth
Cymru wedi sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar ofal cymdeithasol, sy’n
defnyddio adroddiad Holtham i lywio ei waith.
Yn cydnabod yr
angen am ffordd fwy integredig o ymdrin â'r ddarpariaethau gofal iechyd a gofal
cymdeithasol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
3 |
10 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.