Cyfarfodydd

NDM6893 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Atal Gwastraff ag ailgylchu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Atal Gwastraff ac Ailgylchu

NDM6893 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar atal ac ailgylchu gwastraff.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr o ran deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio; a

b) cyflwyno cyfrifoldebau estynedig ar y cynhyrchydd i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu yn deg, gyda chynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol triniaeth ar ddiwedd bywyd eu cynnyrch.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.