Cyfarfodydd

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy’r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed wrth weithredu sganio mpMRI yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy’r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa drefniadau y byddai’n disgwyl eu bod ar waith ar gyfer cleifion y mae angen iddynt gael archwiliadau mewn byrddau iechyd sydd eto i weithredu sganiau mpMRI cyn biopsi fel yr argymhellwyd gan y canllawiau NICE diwygiedig.

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ymhellach a chytunodd i:

  • ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

·         ofyn am ddiweddariad ar weithredu Canllaw NICE newydd ar gyfer canser y prostad;

·         amlinellu’r pryderon a nodwyd gan Prostate Cancer UK a’r deisebydd, a gofyn am ystyriaeth bellach ar sut y gellir rhoi mynediad i’r sganiau hyn i ddynion sy’n byw mewn ardaloedd o Gymru lle nad oes sgan mpMRI ar gael eto fel mesur interim, er enghraifft trwy fyrddau iechyd eraill neu'r sector preifat; ac

·         ysgrifennu at elusennau canser eraill yng Nghymru i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd, gan gynnwys y cynlluniau ar gyfer gweithredu sganio mpMRI.

 

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn:

 

·         gofyn am ddiweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a Bwrdd Wroleg Cymru i sicrhau bod Canllaw terfynol NICE ar ganser y brostad yn cael ei weithredu ledled Cymru; a

·         gofyn i ystyriaeth gael ei rhoi i'r ateb dros dro a gynigiwyd gan y deisebydd i alluogi cleifion i gael mynediad at gyfleusterau sganio preifat tra bod capasiti ac offer yn cael eu cronni yn y GIG.

 

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a chytunodd i ystyried y ddeiseb eto yn dilyn dadl y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 6 Mawrth 2019.

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn o ystyried bod y ddeiseb wedi derbyn dros 5,000 o lofnodion; ac yn y cyfamser

·         ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:

o   am fanylion canlyniad y gweithdy a drefnwyd gan Fwrdd Wroleg Cymru ar 12 Tachwedd;

o   am asesiad o argaeledd presennol sganiau mpMRI cyn-fiopsi i gleifion yng Nghymru;

o   pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu sganiau mpMRI a sicrhau eu bod ar gael ledled Cymru;

o   pa gefnogaeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei darparu i fyrddau iechyd pe bai NICE yn adolygu ei ganllawiau i argymell defnyddio sganiau mpMRI cyn-fiopsi; a

o   ph'un a yw'n ystyried bod ateb interim priodol a fyddai'n galluogi mynediad at sganiau mpMRI i gleifion ledled Cymru, megis drwy alluogi mynediad at gyfleusterau preifat ar gyfer sganiau.