Cyfarfodydd

NDM6880 Plaid Cymru debate - Penderfyniad Coridor yr M4

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl Plaid Cymru - Penderfyniad Coridor yr M4

NDM6880 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu mai'r Prif Weinidog newydd, a gaiff ei benodi ym mis Rhagfyr 2018, ddylai benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect coridor arfaethedig yr M4 o gwmpas Casnewydd, yn amodol ar ganfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.01

NDM6880 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu mai'r Prif Weinidog newydd, a gaiff ei benodi ym mis Rhagfyr 2018, ddylai benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect coridor arfaethedig yr M4 o gwmpas Casnewydd, yn amodol ar ganfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.