Cyfarfodydd

Rheoli Apwyntiadau Dilynol Cleifion Allanol ar Draws Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/09/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (28 Awst 2020)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (23 Hydref 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-22-19 Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a chytunodd i ofyn am eglurhad ar Argymhelliad 4 ynghyd â dyraniad cyllid y bydd pob bwrdd iechyd yn ei gael er mwyn gwella eu targedau cleifion allanol.

 


Cyfarfod: 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-20-19 Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd yr Aelodau i drafod yr adroddiad drafft diwygiedig y tu allan i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 08/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (26 Mehefin 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-19-19 Papur 1 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chaiff fersiwn ddiwygiedig ei llunio i'w thrafod yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf 2019.

 


Cyfarfod: 10/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 10/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-15-19 Papur 1 - Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Dr Chris Jones - Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru a chan Dr Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru.

2.2 Cytunodd Dr Andrew Goodall i:

·         roi restr o'r gwelliannau y gofynnir i bob bwrdd iechyd eu gwneud

·         rhannu'r adborth gan Fwrdd Gweithredu Offthalmoleg ar ganlyniadau'r mesurau newydd ar gyfer gofal llygaid

·         rannu enghreifftiau o'r darnau o waith y mae clinigwyr yn arwain arnynt fel rhan o'r gwelliannau sy'n cael eu hysgogi gan y rhaglen gofal wedi'i gynllunio genedlaethol a'r byrddau arbenigol cysylltiedig.

 

 


Cyfarfod: 20/05/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Llythyr gan Goleg Brenhinol y Meddygon a chan y BMA

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd.

 


Cyfarfod: 01/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-10-19 Papur 1 – Papur gan RNIB

PAC(5)-10-19 Papur 2 - Astudiaeth cleifion RNIB

PAC(5)-10-19 Papur 3 - Datganiad Lywodraeth Cymru: Cyflwyno system ddigidol newydd ar gyfer gofal llygaid a chyllid gweddnewid ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid (13 Mawrth 2019)

 

Ansley Workman, Cyfarwyddwr, RNIB Cymru

Elin Haf Edwards - Rheolwr Materion Allanol, RNIB Cymru

Gareth Davies - Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ar gyfer Iechyd Llygaid a chynrychiolwr cleifion, RNIB

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Ansley Workman, Cyfarwyddwr, Elin Haf Edwards, Rheolwr Materion Allanol, a Gareth Davies, Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Iechyd Llygaid a chynrychiolydd cleifion o RNIB Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru.

3.2 Cytunodd RNIB Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:

·         Cyllid ar gyfer Swyddogion Cyswllt clinigau llygaid ym mhob bwrdd iechyd;

·         Strwythur staffio cyffredinol Canolfannau Diagnostig a Thriniaeth Opthalmeg; a

·         Mwy o wybodaeth am gyflwyno’r cofnod electronig e-atgyfeirio i gleifion a'r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd o ran delweddu a thechnoleg er mwyn caniatáu i bryderon ynghylch cleifion gael eu cyfeirio at ymgynghorwyr

 


Cyfarfod: 01/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Gwybodaeth Ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (13 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod materion allweddol

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau’r meysydd yr oeddent am eu cynnwys yn y papur briffio ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill.

 


Cyfarfod: 11/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.

 


Cyfarfod: 11/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

PAC(5)-07-19 Papur 2 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Judith Paget, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Paul Buss, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Judith Paget, Prif Weithredwr, Dr Paul Buss, Cyfarwyddwr Meddygol, a Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

4.2 Cytunodd Judith Paget i anfon rhagor o wybodaeth am hyd y cyfnod roedd y system deledermatolegol wedi bod yn weithredol.

 


Cyfarfod: 11/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-07-19 Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Len Richards – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Steve Curry - Prif Swyddog Gweithredu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Caroline Bird - Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, Steve Curry, Prif Swyddog Gweithredu, a Caroline Bird, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

3.2 Cytunodd Len Richards i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·         Canlyniadau'r gwaith archwilio mewnol/clinigol diweddar a wnaed ynghylch apwyntiadau dilynol cleifion allanol;

·         Cadarnhad a fydd yr holl optometryddion a leolir yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn gallu atgyfeirio cleifion ar gyfer apwyntiad ymgynghorydd yn electronig pan gaiff y system ei chyflwyno yn ystod chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019-20;

·         Nifer y cleifion y tu allan i'r ardal sy'n aros am atgyfeiriad claf allanol ar hyn o bryd, ynghyd â dadansoddiad o'r meysydd gwasanaeth.

 

 

 

 


Cyfarfod: 14/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y papur cwmpasu

Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.

 


Cyfarfod: 26/11/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-31-18 Papur 1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-31-18 Papur 2 – Ymateb gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Briffiodd yr Archwilydd Cyffredinol yr Aelodau ar yr adroddiad, sef rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn os na all y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon drefnu'r mater hwn yn ei raglen waith.