Cyfarfodydd
NDM6863 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - xx
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 14/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Lles Anifeiliaid
NDM6863 - Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd mewn lles anifeiliaid.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol yn holl ladd-dai
Cymru; a
b) gwahardd yr arfer o ladd anifeiliaid heb eu stynio yn holl ladd-dai
Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd allforio anifeiliaid byw at
ddibenion eu magu a'u lladd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r gwaith cadarnhaol a wnaed gan
Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan y DU rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf
yn y byd.
Yn nodi'r ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd
gan Lywodraeth y DU ar agweddau ar les anifeiliaid wrth eu cludo fel bod y
drefn reoleiddio yn adlewyrchu gwybodaeth wyddonol a milfeddygol unwaith y bydd
y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn croesawu'r penderfyniadau a gymerwyd gan
Lywodraeth y DU i gynyddu’r dedfrydau uchaf am greulondeb anifeiliaid i bum
mlynedd a chyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai yn Lloegr.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu
cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai ledled Cymru;
b) archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno
cyfraith Lucy a gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r
holl werthwyr trydydd parti masnachol yng Nghymru; ac
c) cynyddu cymorth ar gyfer lladd-dai bach a
chanolig i sicrhau bod ffermwyr yn gallu prosesu stoc mor lleol â phosibl.
A call for evidence on controlling live exports for slaughter
and to improve animal welfare during transport after the UK leaves the EU (Saesneg
yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:
a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod
modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;
b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er
mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.
c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n
gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.
Yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o
bryd.
Yn nodi mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod anifeiliaid yn cael
eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 – Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ym mhwynt 2, ychwanegu is-bwynt newydd:
gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon i roi terfyn ar
ffermio anfoesegol cŵn bach.
Cofnodion:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6863 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd
mewn lles anifeiliaid.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn
orfodol yn holl ladd-dai Cymru; a
b) gwahardd yr arfer o ladd anifeiliaid heb eu
stynio yn holl ladd-dai Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd
allforio anifeiliaid byw at ddibenion eu magu a'u lladd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
49 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r gwaith cadarnhaol a wnaed gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod
gan y DU rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd.
Yn nodi'r ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU ar
agweddau ar les anifeiliaid wrth eu cludo fel bod y drefn reoleiddio yn
adlewyrchu gwybodaeth wyddonol a milfeddygol unwaith y bydd y DU yn gadael yr
Undeb Ewropeaidd.
Yn croesawu'r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gynyddu’r
dedfrydau uchaf am greulondeb anifeiliaid i bum mlynedd a chyflwyno teledu
cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai yn Lloegr.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol mewn
lladd-dai ledled Cymru;
b) archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy a gwahardd
gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd
parti masnachol yng Nghymru; ac
c) cynyddu cymorth ar gyfer lladd-dai bach a chanolig i sicrhau bod
ffermwyr yn gallu prosesu stoc mor lleol â phosibl.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
1 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:
a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod
modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;
b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er
mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.
c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n
gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.
Yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn nodi mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod anifeiliaid yn cael
eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
4 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei
ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6863 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd
mewn lles anifeiliaid.
2. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:
a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod
modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;
b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er
mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.
c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n
gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.
3. Yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o
bryd.
4. Yn nodi mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod anifeiliaid yn
cael eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
3 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.