Cyfarfodydd
NDM6849 Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017/18
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017/18
NDM6849 Julie
James (Gorllewin
Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
2017-2018.
Dogfennau
Ategol
Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru 2017-2018
A yw Cymru’n Decach?
Tai a Phobl Anabl
- Argyfwng Cudd Cymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi:
a)
argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch dyletswydd cydraddoldeb y sector
cyhoeddus; a
b)
yr argymhelliad yn llythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Prif
Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno
dyletswydd economaidd-gymdeithasol.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at ddirwyn grant byw'n annibynnol Cymru i ben ac yn credu na all
llywodraeth leol ddarparu lefel gyfatebol o gymorth ariannol oherwydd toriadau
Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y ffaith bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth i bobl sy'n
goroesi ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig yn parhau i fod yn annigonol.
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y canfyddiad bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai
mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o
ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn
amddiffyniadau hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.22
NDM6849 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad
Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ddirwyn
grant byw'n annibynnol Cymru i ben ac yn credu na all llywodraeth leol ddarparu
lefel gyfatebol o gymorth ariannol oherwydd toriadau Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
27 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y
ffaith bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth i bobl sy'n goroesi ymosodiadau
rhywiol a cham-drin domestig yn parhau i fod yn annigonol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
27 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y canfyddiad
bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac
anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a
hawliau dynol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y twf
rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau
hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer
cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
2 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6849 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
2017-2018.
2. Yn nodi:
a) argymhellion
allweddol yr adroddiad ynghylch dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus; a
b) yr argymhelliad
yn llythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Prif Weinidog fod Llywodraeth
Cymru yn amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno dyletswydd
economaidd-gymdeithasol.
3. Yn gresynu at y canfyddiad
bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac
anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a
hawliau dynol.
4. Yn gresynu at y
twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau
hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer
cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.