Cyfarfodydd

P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar Gynllun Aer Glân ar hyn o bryd ac yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ar Ddeddf Aer Glân cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn. Yn sgil y cyfyngiadau ymarferol ar basio deddfwriaeth cyn etholiad 2021, a’r ymrwymiadau a wnaed gan y Gweinidog, daeth yr Aelodau i’r casgliad nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor Deisebau ei gyflawni ar yr adeg hon. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'n bwriadu troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yn gyfraith yng Nghymru, fel y’i nodir yn y Cynllun Aer Glân drafft, ac yn gofyn ynghylch y potensial i gyflymu'r amserlen er mwyn cyflwyno deddfwriaeth ar lygredd aer yn ystod y Cynulliad hwn.

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu eto at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am y canlynol:

·         diweddariad ynghylch datblygu Cynllun Aer Glân;

·         esboniad pam y bu oedi o ran llunio a chyhoeddi’r cynllun hwn; a

·         gwybodaeth am hynt yr ymrwymiadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ei faniffesto ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru i gyflwyno Deddf Aer Glân.

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • rhannu sylwadau diweddaraf y deisebwyr â Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yng nghyd-destun eu cynnig i gefnogi gwaith yn y maes hwn; a
  • aros am i ddrafft o Gynllun Aer Glân i Gymru gael ei gyhoeddi ac ystyried a oes a all y Pwyllgor wneud rhagor ar y pwynt hwnnw.

 

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-839 Mabwysiadu canllawiau WHO a chyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn iddi ymateb i'r sylwadau ychwanegol a wnaed gan y deisebwyr cyn penderfynu a ddylid trefnu i gasglu tystiolaeth.