Cyfarfodydd

NDM6816 Dadl Plaid Cymru - Pleidlais y Bobl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/10/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl Plaid Cymru - Pleidlais y Bobl

NDM6816 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylid cynnal pleidlais y bobl drwy refferendwm y DU-gyfan ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm y DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel a fynegwyd mewn refferendwm a gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl.

2. Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn ddiweddar a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl “credu” a rhoi yn ei le:

bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.

 

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6816 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylid cynnal pleidlais y bobl drwy refferendwm y DU-gyfan ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

0

40

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm y DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel a fynegwyd mewn refferendwm a gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl.

2. Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn ddiweddar a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

2

10

35

47

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl “credu” a rhoi yn ei le:

bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

19

46

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Yn credu bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

18

46

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.