Cyfarfodydd

Bil Amaethyddiaeth y DU

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/06/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar un newid bach.

 


Cyfarfod: 06/06/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth. Bydd y Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 22 Mai.

 


Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Dr Ludivine Petetin a Dr Mary Dobbs ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Hybu Cig Cymru ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan NFU Cymru ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i Fil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dull ar gyfer trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU a chytunodd ar y dull hwnnw.


Cyfarfod: 01/04/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Papur i'w nodi 1 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 24/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/01/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i'w nodi 1 - Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 12/12/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Bil Amaethyddiaeth y DU: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd a derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft gyda mân newidiadau.


Cyfarfod: 10/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Bil Amaethyddiaeth y DU

CLA(5)-32-18 – Papur 52Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

 


Cyfarfod: 10/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth y DU : Adroddiad Drafft

CLA(5)-32-18 – Papur 54 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno yn amodol ar rai mân gywiriadau.

 


Cyfarfod: 06/12/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Sesiwn friffio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor frîff llafar ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Gwasanaeth Ymchwil. 

 


Cyfarfod: 06/12/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Trafod Bil Amaethyddiaeth y DU: sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Tim Render, Cyfarwyddwr Arweiniol dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Peter McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Diwygio Rheoli Tir, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

5.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i rannu unrhyw sylwadau ychwanegol gyda'r Pwyllgor i lywio ei adroddiad ar Fil Amaethyddiaeth y DU.

5.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i rannu'r ohebiaeth gan y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch trefniadau Sefydliad Masnach y Byd gyda'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo'n dod i law.

 


Cyfarfod: 06/12/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/12/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod tystiolaeth lafar

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.

 


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth y DU : Adroddiad Drafft

CLA(5)-31-18 – Papur 31 – Adroddiad Drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 14/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Trafod Bil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU

Dr Ludivine Petetin, Darlithydd yn y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth - Prifysgol Caerdydd

Dr Mary Dobbs, Cyfarwyddwr, Ysgol y Gyfraith - Prifysgol y Frenhines, Belfast

Dr Nerys Llewelyn Jones, Partner Rheoli - Agri Advisor

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Dr Ludivine Petetin, Dr Mary Dobbs, a Dr Nerys Llewelyn Jones i lywio ei ymchwiliad.

 


Cyfarfod: 14/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Trafod Bil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU

Dr Nick Fenwick, Pennaeth Polisi - Undeb Amaethwyr Cymru

Huw Rhys Thomas, Cynghorydd Gwleidyddol - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

George Dunn, Prif Weithredwr - Cymdeithas Ffermwyr Tenant

Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cymru - Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Dr Nick Fenwick, Huw Rhys Thomas, George Dunn a Rebecca Williams i lywio ei ymchwiliad.

 


Cyfarfod: 14/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Trafod Bil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU

Rachel Sharp, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Frances Winder, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Dr Eleanor M Harris, Ymchwilydd Polisi - Confor

Tony Davies, Cadeirydd – Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Rachel Sharp, Frances Winder, Dr Eleanor M Harris a Tony Davies i lywio ei ymchwiliad.

 


Cyfarfod: 14/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at y Cadeirydd – Cyfarfod 6 Rhagfyr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/11/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Bil Amaethyddiaeth y DU

CLA(5)-28-18 – Papur 10 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 08/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - Trafod Bil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU - Gwahoddiad i Gyfarfod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Gohebiaeth rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a'r Cadeirydd - Trafod Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Trafod y dystiolaeth: Bil Amaethyddiaeth y DU

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU.

 


Cyfarfod: 05/11/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Bil Amaethyddiaeth y DU: Sesiwn dystiolaeth

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig;

Tim Render, Llywodraeth Cymru; 

Peter McDonald, Llywodraeth Cymru.

 

CLA(5)-27-18 – Papur briffio

CLA(5)-27-18 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(5)-27-18 – Papur 21 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, 24 Medi 2018

CLA(5)-27-18 – Papur 22 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, 11 Hydref 2018

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

Ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor yn dilyn cyfarfod pedairochrog Gweinidogion y DU a gynhelir mewn pythefnos.  Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Amaethyddiaeth erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau, sef 14 Rhagfyr 2018.

 


Cyfarfod: 24/10/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU.