Cyfarfodydd

P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gwybodaeth bellach a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach yn dilyn y cyfarfod a gynlluniwyd gyda Haemophilia Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Waed, cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a’r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi’i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau â gweinyddiaethau eraill y DU ynghylch sicrhau cydraddoldeb o ran buddion y cynllun, a phwyso am ddatrys y mater hwn ar frys.

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am ymateb gan y Gweinidog i'r datganiad a wnaed gan y deisebydd ynghylch lefelau talu, ac i gael gwybodaeth am sut y gwneir penderfyniadau ynghylch lefelau talu.

 

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am ragor o wybodaeth am fuddion presennol y cynllun yng Nghymru a Lloegr gan y Gwasanaeth Ymchwil.

 


Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am farn y deisebwyr am y wybodaeth yn natganiad y Gweinidog ar 6 Mawrth, cyn ystyried cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ddiweddariad pellach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas ag adolygiad o fuddiannau'r cynllun a’r fframwaith taliadau disgresiwn cyn ystyried y ddeiseb ymhellach, ac i ysgrifennu eto yn ystod y Pasg os na dderbynnir hwn.

 


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ailadrodd y cais am yr amserlen debygol ar gyfer penderfynu ar fuddion Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a'u cyfathrebu, a gofyn iddo roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o'r cymorth ariannol i fuddiolwyr unwaith y bydd buddion y cynllun wedi'u pennu.

 

 

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r enghreifftiau a roddwyd gan y deisebwyr a gofyn am arwydd o'r amserlenni ar gyfer penderfynu ar fuddion y cynllun ar gyfer 2018/19.