Cyfarfodydd

Craffu ar waith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr oddi wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn dilyn y sesiwn graffu ar 5 Gorffennaf

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/09/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y gwaith craffu ar Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 5 Gorffennaf

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 


Cyfarfod: 12/07/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Brif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/07/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Cyfarfod: 05/07/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru

Huw George, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Chyllid, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus / Cyfarwyddwr Meddygol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd cynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru i gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor a chytunodd i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol ganlynol yn ysgrifenedig:

  • Ffeithlun a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddelio â phrofiadau andwyol mewn plentyndod;
  • Manylion am waith gwydnwch a wneir mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;
  • Yr adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â'r ffaith bod esgeulustod yn brofiad andwyol mewn plentyndod;
  • Manylion am sut caiff cyllid ei flaenoriaethu, gan gynnwys sut caiff gwariant rhaglen gwella iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei rannu ar draws cwrs bywyd;
  • Dadansoddiad o sut caiff staff eu dyrannu ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng rolau ymchwil a darparu;
  • P'un a oes manylion ar gael ar y nifer o bobl sy'n goroesi sepsis ond yn profi ansawdd bywyd is o ganlyniad;
  • Copi o adroddiad cynnydd perfformiad Iechyd Cyhoeddus Cymru;

Manylion am y gallu i ymateb i gynnydd disgwyliedig mewn sgrinio ar gyfer canser y coluddyn pan gaiff y Prawf Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT) newydd ei gyflwyno.