Cyfarfodydd
NDM6757 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yn yr ucheldir
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yn yr ucheldir - Gohiriwyd tan 19 Medi
NDM6757 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon
gwlanog, i fryniau Cymru.
2.
Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd
Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r
amgylchedd yn gyffredinol.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud
anifeiliaid byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i
ailboblogi'r ardaloedd hynny ag anifeiliaid byw.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn nodi pwysigrwydd
ffermio mynydd i gymunedau gwledig a'r economi wledig.
2. Yn cydnabod yr
heriau sy'n wynebu ffermwyr mynydd yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, fel yr
amlygwyd yn yr adroddiad 'The Future of the Welsh Uplands after the Common
Agricultural Policy'.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu polisi ar gyfer ffermio
mynydd yng Nghymru sy'n gwarchod ei gynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.
The
Future of the Welsh Uplands after the Common Agricultural Policy (Saesneg
yn unig)