Cyfarfodydd

Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion)

NDM6760 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bill documents — Non-Domestic Rating (Nursery Grounds) Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfen Ategol

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.17

NDM6760 - Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 05/07/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n deillio o'r Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) ('y Bil')

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-17-18(p12) Adroddiad (Saesneg yn unig)
  • EIS(5)-17-18(p13) Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.


Cyfarfod: 02/07/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion)

CLA(5)-19-18 – Papur 9 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-19-18 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol (Preifat)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.