Cyfarfodydd

P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd.  Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y byddai'r deisebau sy'n dod i law, a barn trigolion lleol, yn cael eu hystyried yn ystod y broses o adolygu'r terfyn cyflymder.  Wrth wneud hynny, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y deisebydd i egluro'r rhesymau dros hyn ac i egluro na all y Pwyllgor Deisebau ei hun wneud y newid y gofynnwyd amdano yn uniongyrchol.

 

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a oes cynlluniau, ar hyn o bryd, i wella'r A487 o ystyried ei phwysigrwydd strategol a'r ffaith ei bod yn mynd drwy nifer fawr o bentrefi lle mae pryderon ynglŷn â chyflymder y traffig.

 

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y canlynol:

o   rhagor o wybodaeth am statws presennol ymrwymiadau blaenorol i archwilio i'r posibl o dynnu statws cefnffordd yr A487 yn Aberystwyth, ac a yw'r gwaith hwn yn dal i fwrw ymlaen;

  • ystyried y ddeiseb eto ynghyd â deisebau presennol eraill yn ymwneud â therfynau cyflymder unwaith y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i ohebiaeth flaenorol y Pwyllgor yn ymwneud â'r Adolygiad Terfyn Cyflymder.