Cyfarfodydd

P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor am y camau sy’n cael eu cymryd i leihau neu ddileu’r defnydd o wellt plastig a bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau ar eitemau plastig untro yn y dyfodol, a’r amgylchiadau mewn perthynas â chyfyngu ar eu defnydd mewn ysgolion drwy drefniadau lleol a chontractau caffael.

 

Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch Senedd Ysgol y Wern ar eu defnydd o’r broses ddeisebu a diolch i’r ysgol a’r disgyblion am eu hymgysylltiad trwy gydol ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-822: Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu at WRAP Cymru i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; ac

·         aros hyd nes cyhoeddi'r adroddiad gwerthuso ar yr ymarfer peilot diweddar yn Sir Benfro.

 


Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad yr ymarfer peilot diweddar yn Sir Benfro, ac am unrhyw farn y mae Llywodraeth Cymru wedi dod iddi ynghylch y potensial ar gyfer ei weithredu'n ehangach.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • aros am ragor o wybodaeth gan CLlLC yn dilyn cyfarfod arfaethedig aelodau cabinet addysg awdurdodau lleol; a
  • cheisio rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith parhaus gan swyddogion a'r treial a gaiff ei gynnal yn Sir Benfro yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Amgylchedd i ofyn iddi am y canlynol:

o   a fyddai'n ystyried rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar wahardd defnyddio gwellt plastig gyda llaeth yn yr ysgol;

o   darparu rhagor o wybodaeth am ymgynghoriad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gyda chyflenwyr y cyfeiriwyd atynt yn ei llythyr;

o   rhoi gwybod i'r Pwyllgor a yw unrhyw un o'r prosiectau peilot yn y cynghorau yn fesurau archwilio penodol i leihau neu gael gwared ar y defnydd o wellt plastig mewn ysgolion; ac

·         ysgrifennu at CLlLC i ofyn am eu barn ar y ddeiseb ac i ofyn pa arweiniad a gymerwyd wrth weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i helpu i leihau neu gael gwared ar y defnydd o wellt plastig.