Cyfarfodydd
NDM6735 Dadl Plaid Cymru - Sefydlu cwmni ynni
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Sefydlu cwmni ynni cyhoeddus
NDM6735
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig hirsefydlog
Plaid Cymru am sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd, Ynni Cymru.
2. Yn nodi ymrwymiad
maniffesto Plaid Lafur Cymru 2017 i gefnogi "creu cwmnïau a chydweithfeydd
ynni cyhoeddus, sy’n atebol yn lleol i gystadlu yn erbyn cyflenwyr ynni preifat
presennol, gydag un o leiaf ym mhob rhanbarth".
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r cyhoedd.
Maniffesto
Llafur Cymru 2017 - Sefyll Cornel Cymru
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 – Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y gwaith a wnaeth Llywodraeth Cymru gyda
rhanddeiliaid wedi dangos na ddylem fynd ar drywydd cwmni cyflenwi ynni i Gymru
gyfan, ond y dylem yn hytrach barhau i archwilio dulliau eraill o sicrhau
manteision i Gymru yn unol â’r blaenoriaethau a’r targedau sydd wedi’u nodi gan
Lywodraeth Cymru.
Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth
Cymru, megis Cartrefi Cynnes, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r
rhaglen Byw yn Glyfar o ran creu busnesau ynni dan berchnogaeth leol fel rhan
o’r broses o droi at economi carbon isel.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6735 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig hirsefydlog Plaid Cymru am sefydlu cwmni ynni sy'n
eiddo i'r cyhoedd, Ynni Cymru.
2. Yn nodi ymrwymiad maniffesto Plaid Lafur Cymru 2017 i gefnogi
"creu cwmnïau a chydweithfeydd ynni cyhoeddus, sy’n atebol yn lleol i
gystadlu yn erbyn cyflenwyr ynni preifat presennol, gydag un o leiaf ym mhob
rhanbarth".
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni sy'n eiddo i'r
cyhoedd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
2 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le:
Yn nodi bod y gwaith a
wnaeth Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid wedi dangos na ddylem fynd ar
drywydd cwmni cyflenwi ynni i Gymru gyfan, ond y dylem yn hytrach barhau i
archwilio dulliau eraill o sicrhau manteision i Gymru yn unol â’r
blaenoriaethau a’r targedau sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru.
Yn cydnabod cyfraniad
rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis Cartrefi Cynnes, Nyth ac
Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o ran creu
busnesau ynni dan berchnogaeth leol fel rhan o’r broses o droi at economi
carbon isel.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
2 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6735 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig hirsefydlog Plaid Cymru am sefydlu cwmni ynni sy'n
eiddo i'r cyhoedd, Ynni Cymru.
2. Yn nodi ymrwymiad maniffesto Plaid Lafur Cymru 2017 i gefnogi
"creu cwmnïau a chydweithfeydd ynni cyhoeddus, sy’n atebol yn lleol i
gystadlu yn erbyn cyflenwyr ynni preifat presennol, gydag un o leiaf ym mhob
rhanbarth".
3. Yn nodi bod y gwaith
a wnaeth Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid wedi dangos na ddylem fynd ar
drywydd cwmni cyflenwi ynni i Gymru gyfan, ond y dylem yn hytrach barhau i
archwilio dulliau eraill o sicrhau manteision i Gymru yn unol â’r
blaenoriaethau a’r targedau sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru.
4. Yn cydnabod cyfraniad
rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis Cartrefi Cynnes, Nyth ac
Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o ran creu
busnesau ynni dan berchnogaeth leol fel rhan o’r broses o droi at economi
carbon isel.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
4 |
9 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.