Cyfarfodydd

P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru – Bil Diogelu a Hyrwyddo

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/10/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol

Dylan Foster Evans, yn cynrychioli Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Pam Whitham, Arolwg Ordnans

Eleri James, Uwch Swyddog Isadeiledd ac Ymchwil, Comisiynydd y Gymraeg

Osian Rhys, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd Dylan Foster Evans o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Pam Whitham o'r Arolwg Ordnans, Eleri James o Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ac Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i gwestiynau gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru - Bil Diogelu a Hyrwyddo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ac, oherwydd bod y Pwyllgor Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi rhoi sylw i’r mater penodol hwn yn ystod ei ymchwiliad i'r Amgylchedd Hanesyddol yn ddiweddar, ac oherwydd ei argymhelliad i barhau i adolygu’r mater, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru - Bil Diogelu a Hyrwyddo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd mewn ymateb i'r llythyr gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.