Cyfarfodydd

P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar 29 Hydref 2019 y bydd cronfa i ddarparu prostheteg chwaraeon arbenigol i blant a phobl ifanc yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2020. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni hyn ac ysgrifennu at y deisebydd i'w longyfarch am lwyddiant y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ddiweddariad ar:

·         y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag achos busnes dros ddatblygu gwasanaeth i ddarparu prostheses chwaraeon arbenigol i blant; ac

·         yr ystyriaeth a roddir i ddarparu copi o'r achos busnes i'r Pwyllgor

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn:

·         am ddiweddariad am ei fwriadau mewn perthynas ag argaeledd prostheteg chwaraeon yn y dyfodol,

·         am ei amserlenni disgwyliedig ar gyfer ystyried achos busnes llawn ar y mater hwn, ac i ofyn am gopi o'r achos busnes ar ôl iddo gael ei gwblhau; ac

·         a yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ymchwil i ddatblygiad neu addasrwydd argraffu 3D at y diben hwn, neu a yw wedi cefnogi ymchwil o’r fath.

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae cwmni yn ei etholaeth yn gwneud aelodau prosthetig drwy argraffu 3D.

 

Trafododd y Pwyllgor ymateb gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu yn ôl at WHSSC i:

o   ofyn am ragor o fanylion am yr adolygiad o fanyleb y Gwasanaethau Adsefydlu Trychedigion a Phrosthetig, gan gynnwys y broses, yr amserlenni a rhestr o'r rhanddeiliaid y mae'n bwriadu ymgynghori â hwy; a

o   cheisio rheswm llawn y tu ôl i'r cyfyngiadau o fewn y fanyleb bresennol ar gyfer Gwasanaethau Adsefydlu Trychedigion a Phrosthetig ar gyfer aelodau isaf hamdden; ac

 

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:

o   i Lywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod cyllid penodol ar gael i blant allu cael gafael ar aelodau prosthetig chwaraeon arbenigol; a

o   pha rwystrau sydd i ddefnyddio argraffu 3D ar gyfer cynhyrchu aelodau prosthetig.

 

 


Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) i ofyn am ragor o fanylion am y polisi presennol ar gyfer darparu gwasanaethau prosthetig, gan ofyn:

·         pam mae'n ymddangos bod gwahaniaeth yn cael ei wneud rhwng breichiau a choesau;

·         faint o geisiadau a gafwyd ar gyfer coesau prosthetig hamdden o dan y broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), ac amcan o'r gyfran a gymeradwyir;

·         am fanylion am y gost ychwanegol gyfartalog sy'n gysylltiedig â darparu coes brosthetig hamdden i blentyn neu berson ifanc; ac

·         i ba raddau y mae technoleg argraffu 3D yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, neu y gellid ei defnyddio yn y dyfodol, i gynhyrchu aelodau prosthetig.