Cyfarfodydd

P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Tafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb am fod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu peidio ag ymestyn unrhyw brydlesi ar gyfer hawliau saethu ffesantod ar ôl iddynt ddod i ben ym mis Mawrth 2019, yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.  Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am longyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-816 Dywedwch 'NA' i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at:

o   Adnoddau Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb a'r sylwadau manwl a wnaed gan y deisebwyr, ac i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad a'r amserlenni tebygol ar gyfer penderfynu ar bolisi ar y mater hwn yn y dyfodol;

o   Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ymateb i'r pryderon a fynegwyd ynghylch digonolrwydd y Cod Ymarfer er Lles Adar Hela a'r camau a gymerir i fonitro'r cod hwn; ac i

·         drafod gofyn am amser yn y Cyfarfod Llawn i gynnal dadl ar y mater hwn unwaith y bydd ymatebion i'r cwestiynau hyn wedi dod i law.