Cyfarfodydd

P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-815 Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys Sy'n Ehangu'n Gyflym Yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach, a nododd fod y gwaith yn mynd rhagddo i adolygu – a phan fydd cyfleoedd yn cael eu nodi, cryfhau – gofynion cynllunio sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth ddwys. Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r pryderon difrifol a fynegwyd gan y deisebwyr trwy gydol y broses hon ond daeth i'r casgliad – yn wyneb yr ymatebion a gafwyd gan y Gweinidog, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr – mai prin iawn yw’r hyn y gallai ei gyflawni ymhellach ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a all barhau i fonitro datblygiadau fel rhan o'u gwaith ynghylch defnydd tir a bioamrywiaeth.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd i rannu pryderon y deisebwyr a gofyn iddi ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd gan y deisebwyr yn eu gohebiaeth ddiweddaraf, a hefyd rhannu’r ohebiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gofyn am eu hymatebion i’r materion sy'n berthnasol iddynt.

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn am ymateb i'r pwyntiau blaenorol a godwyd mewn perthynas â'r egwyddor 'mai’r llygrwr sy’n talu', ac i ofyn rhagor o gwestiynau a gynigiwyd gan y deisebwyr mewn perthynas â llygredd amonia a ffosffad a'r drefn ganiatáu; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i esbonio pryderon y deisebwyr bod yr amserlenni ar gyfer gwaith y Gweithgor Amaethyddiaeth Ddwys Cynllunio Gwlad a Thref wedi llithro, ac i ofyn am linell amser wedi'i diweddaru ar gyfer gwaith y Grŵp, gan gynnwys syniad o ran pryd y bydd yn adrodd ar ei ganfyddiadau.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r deisebydd, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         darparu'r wybodaeth ychwanegol gan y deisebwyr i:

o   Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a gofyn am ei hymateb i'r cynnig i gymhwyso'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu' i gostau rheoleiddio, monitro ac achosion o dorri rheolau; a'r

o   Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â sylwadau'r deisebwyr ar y cylch gorchwyl ar gyfer y gweithgor amaethyddiaeth ddwys cynllunio gwlad a thref ac aros am ganlyniadau ei waith. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn i'r Gweinidog i ba raddau yr oedd wedi ystyried effaith gronnus penderfyniadau cynllunio ac a fyddai'n ystyried diwygio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 i ystyried hyn.

 

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:

·         gofyn am restr o aelodaeth y gweithgor a chadarnhad o'i deitl a'i gylch gorchwyl terfynol;

·         cynnig y dylai aelodaeth y grŵp gynnwys cynrychiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol a/neu wyddonydd/gwyddonwyr annibynnol; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth am y rhyngweithio rhwng y gwaith hwn a'r Gweithgor Iechyd ar Amaethyddiaeth Ddwys.

 


Cyfarfod: 06/03/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch deiseb P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am:
    • fanylion pellach am y gwaith a wneir ynghylch effaith gronnus datblygiadau newydd ar gynefinoedd sensitif yn ystod 2019;
    • gwybodaeth am y rhanddeiliaid a fydd yn cymryd rhan yn hyn; ac
    • ymateb i'r cais i'r deisebwyr gael eu gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith hwn.
  • ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ei hysbysu am y ddeiseb a'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma gan fod y Pwyllgor hwnnw yn cynnal ymchwiliad i Fioamrywiaeth;
  • rhannu dadansoddiad y deisebwyr a safbwyntiau Cyfoeth Naturiol Cymru fel y'u mynegwyd yn eu gohebiaeth flaenorol ag aelodau'r pwyllgor.

 

 

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

    • am ei hymateb i'r awgrym bod y gofynion presennol i awdurdodau cynllunio lleol gynnal asesiad amgylcheddol o geisiadau am unedau dan 40,000 o leoedd adar yn annigonol er mwyn amddiffyn cynefinoedd a'r amgylchedd;
    • a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailystyried y trothwyon yn y dyfodol, fel yr awgrymwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru;
    • am ei hymateb i bryderon ynghylch y gallu a'r arbenigedd mewn awdurdodau cynllunio lleol i gynnal asesiadau amgylcheddol angenrheidiol yn ddigonol; ac
    • yn sgil yr uchod, a yw'n credu bod rheswm dros atal y sector hwn rhag ehangu ymhellach wrth wneud rhagor o waith ymchwil a thrafod rhagor o reolaethau posibl.

 

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-815 Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys sy'n Ehangu'n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

 

·         Adnoddau Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac 

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ragor o wybodaeth am y ffordd y caiff datblygiadau dofednod llai eu hystyried, neu'r ffordd y gellid ystyried y mater hwn, ac a ellir grymuso Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar effeithiau cronnol cael sawl datblygiad o'r fath mewn ardal benodol.