Cyfarfodydd

P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried y defnydd o faglau Larsen fel rhan o adolygiad ehangach o'r holl drwyddedu adar gwyllt yn 2020, a chau'r ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu a fydd yn cael ei gymhwyso i'r arfer hwn drwy’r broses honno.

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Cyfoeth Naturiol Cymru i dderbyn eu cynnig i ymchwilio i’r arferion o ddefnyddio a rheoleiddio Maglau Larsen, a gofyn iddynt ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer pryd y maent yn rhagweld y byddant yn cyflawni'r gwaith hwn.

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn tynnu sylw at y wybodaeth a dderbyniwyd gan ystod o randdeiliaid, a gofyn am ymatebion i'r pryderon a godwyd ynghylch defnyddio a rheoleiddio baglau Larsen yn ogystal â gwybodaeth bellach am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd neu eu hystyried yn y maes hon.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan randdeiliaid a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth a gafwyd, cyn trafod rhagor o gamau ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid gan gynnwys RSPCA Cymru, RSPB Cymru, y Gynghrair Cefn Gwlad a'r Sefydliad Ciperiaid Cenedlaethol, i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd yn y ddeiseb.