Cyfarfodydd
NDM6703 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol
NDM6703 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn
ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi
gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y
Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er
mwyn:
a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a
hyfforddwyd dramor;
b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus
sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a
cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac
c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr
cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu
proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan
gynnwys:
a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;
b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o
ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;
c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n
fanwl;
d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth
Addysgol; a
e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.
[Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1:
Yn nodi ffigyrau National Education Union Cymru sy’n
dangos bod dros 50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan
athrawon oherwydd salwch sy’n ymwneud a straen a bod 33.6 y cant o’r
athrawon ysgol a wnaeth ymateb i arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y
Gweithlu Addysg yn bwriadu gadael eu proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf.
Arolwg
Gweithlu Addysg Cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6703 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol
o ran recriwtio athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y ffaith nad
yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag
achosion hyn.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion
cenedlaethol i Gymru, er mwyn:
a) dileu rhwystrau diangen i
recriwtio athrawon a hyfforddwyd dramor;
b) cydnabod sgiliau athrawon
profiadol a llwyddiannus sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn
ysgolion annibynnol a cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac
c) sefydlu llwybrau i addysgu
ar gyfer cynorthwywyr cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
30 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu
proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan
gynnwys:
a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;
b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o
ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;
c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n
fanwl;
d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth
Addysgol; a
e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
26 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6703 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu
proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan
gynnwys:
a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;
b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o
ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;
c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n
fanwl;
d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth
Addysgol; a
e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
26 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.