Cyfarfodydd

P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i gadw golwg ar y mater hwn ac ailedrych ar y ddeiseb a'r cynnydd a wnaed yn yr hydref, neu ar ôl cael diweddariad pellach.

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a chytunodd i dderbyn y cynnig o gael diweddariad ar gynnydd a gofyn amdano, a diweddariad gan y deisebwyr ac Anabledd Cymru, ar ddechrau tymor yr hydref.

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ fel yr oedd ar y pryd a chan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i groesawu'r ffaith bod camau y cyfeiriodd y Gweinidog blaenorol atynt yn cael eu hystyried, yn enwedig o ran gweithredu cynllun peilot, a bydd yn gofyn am ddiweddariad am yr amserlenni ar gyfer ystyriaeth neu waith pellach yn y maes hwn, gan fod yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol bellach wedi'i gwblhau.

 

 


Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn Dystiolaeth P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

·         Simon Green – Bridgend Coalition for Disabled People

 

·         Helen Fincham - Bridgend Coalition for Disabled People

 

·         Rhian Davies – Disability Wales

 

·         Anita Davies – RNIB

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Green, Helen Fincham, Rhian Davies ac Anita Davies.

 

 


Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafodaeth am Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol - P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i roi gwybodaeth am y materion a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun o'r fath. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd nad yw'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi cael fawr o effaith ar wella hygyrchedd adeiladau ar gyfer pobl ag anableddau; a'r

·         Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd mai ychydig iawn o effaith o ran gwella hygyrchedd adeiladau y mae'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi ei chael ar gyfer pobl ag anableddau, ac nad yw gofynion y Ddeddf yn cael eu gorfodi'n briodol.

 

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         cynnal ymchwiliad byr, trefnu sesiynau tystiolaeth llafar yn hwyrach yn nhymor y gwanwyn; ac

·         yn y cyfamser, gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig bellach gan randdeiliaid perthnasol ar y materion a nodir yn y ddeiseb.