Cyfarfodydd

P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn ymrwymiad y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd yr Adolygiad o Chwarae gan y Gweinidog yn cynnwys ystyried trefniadau cyllido a'r ohebiaeth a gafodd y Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r ddeiseb. Dywedodd Aelodau'r Pwyllgor y byddent yn parhau i graffu ar yr adolygiad gan y Gweinidog yn rhinwedd eu swydd fel Aelodau unigol o'r Senedd.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn bod y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd gan Chwarae Cymru a’r Comisiynydd Plant yn cael eu hystyried yn ffurfiol fel rhan o’r Adolygiad o Chwarae gan y Gweinidog, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru; ac

·         ysgrifennu eto at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ymateb i’r materion a godwyd gan y ddeiseb a gofyn sut mae’r Gymdeithas yn ymateb i ddisgwyliadau awdurdodau lleol, a amlinellwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru.

 


Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a'r deisebydd a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am gyfleoedd ar gyfer chwarae a mynediad i fannau chwarae a chyfleusterau chwaraeon i blant a phobl ifanc gan y Gwasanaeth Ymchwil, ac i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i holi eu barn am y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddi ystyried ychwanegu at ganllawiau sy'n cyd-fynd â grantiau chwarae yn y dyfodol i sicrhau bod sefydliadau gwirfoddol lleol yn cael budd digonol o gyllid o'r fath.


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid ar gyfer chwarae yng nghyd-destun y gyllideb ar gyfer 2019/20; a
  • Chwarae Cymru i ofyn am ei farn ar y mater a godwyd yn y ddeiseb, gwybodaeth am ei adolygiadau o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a Chynlluniau Gweithredu, ac am ei ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y deisebwyr ynglŷn â'i ymgyrch gymdeithasol.

 

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a chan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr atebion a roddwyd gan y Gweinidog cyn ystyried cymryd rhagor o gamau mewn perthynas â'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

  •  y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol i rannu pryderon y deisebwyr a gofyn:
    • pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau o dan Adran 11 y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
    • pa gamau a gymerwyd i sicrhau bod lefel ddigonol o wariant yn cael ei wneud ar lefel leol ledled Cymru;
    • pa ystyriaeth a roddwyd i'r ddarpariaeth chwarae wrth ddatblygu strategaeth gordewdra Llywodraeth Cymru; a
  • y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i'w wneud yn ymwybodol o'r ddeiseb yng nghyd-destun ei ymchwiliad cyfredol i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc.