Cyfarfodydd
Costau yn perthyn i Swyddfeydd Aelodau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Rheolau'r Swyddog Cyfrifyddu ar ddefnyddio adnoddau Comisiwn y Senedd.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
Reolau’r Swyddog Cyfrifyddu ar ddefnyddio Adnoddau Comisiwn y Senedd, sydd
wedi'u hail-ddrafftio, a gyhoeddir o dan awdurdod Cod Ymddygiad Aelodau'r
Senedd, paragraff 10, gan Swyddog Cyfrifyddu Comisiwn y Senedd o dan adran 138
o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Costau sy’n gysylltiedig â Swyddfeydd Aelodau a ariennir yn ganolog gan y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Ar ôl cytuno yn 2018 i
geisio sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn perthynas â chostau yr eir
iddynt gan Aelodau am redeg eu swyddfeydd, ar wahân i’r rheini y mae’r
Penderfyniad yn darparu ar eu cyfer, trafododd y Comisiynwyr ddata yn ymwneud â
gwariant dros gyfnod o 12 mis.
Cytunodd y comisiynwyr
i siarad â’u grwpiau ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff y
costau hyn eu rheoli, gyda’r bwriad o gytuno ar yr argymhellion er mwyn
hwyluso’r gwelliant hwn.
Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Costau cysylltiedig â Swyddfeydd yr Aelodau a ariennir yn ganolog gan Gomisiwn y Cynulliad - nodyn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cyfarfod: 26/02/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Costau cysylltiedig â Swyddfa’r Aelodau a gyllidir yn ganolog gan Gomisiwn y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y costau, heblaw’r
rhai a ddarperir gan y Penderfyniad, y mae’r Aelodau yn mynd iddynt wrth redeg
eu swyddfeydd.
Cytunwyd ar gynigion i adolygu’r ffordd y
caiff cyllidebau cysylltiedig â swyddfa eu rheoli dros y tymor byr a’r tymor
hir gyda’r bwriad o sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd y gwariant
ychwanegol hwn yn ymwneud â Swyddfeydd Aelodau.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd ar ymgynghori â’r
Aelodau ynghylch cyflwyno camau interim tuag at y dull gweithredu hwn.
Cyfarfod: 17/09/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Dodrefn newydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Adolygodd y Comisiwn wybodaeth a oedd wedi'i darparu ynglŷn â'r angen
i adnewyddu swyddfeydd yn Nhŷ Hywel a ddefnyddir gan Aelodau'r Cynulliad.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r gwaith o adnewyddu swyddfeydd yr Aelodau
fod yn rhan o'r rhaglen dreigl barhaus o waith cynnal a chadw ar ystâd y
Cynulliad.