Cyfarfodydd

P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ar y sail bod yr ymgyrchwyr wedi llwyddo i gael ailasesiad o’r risg o ran llifogydd cyn i unrhyw waith pellach gael ei wneud yn y parc – a gan nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gwneud gwaith pellach ar hyn o bryd – cytunodd y Pwyllgor nad oes camau pellach y gall eu cymryd cyn diwedd y tymor y Senedd hon.  Estynnodd y Pwyllgor ei longyfarchiadau i’r deisebwyr ar eu llwyddiant, a chau'r ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu eu hailasesiad o gam olaf Cynllun Llifogydd y Rhath gyda'r deisebwyr cyn gynted â phosibl.

 

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         barhau i gadw golwg craff ar y mater a gofyn am ddiweddariad pellach ar ôl i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried opsiynau, a ragwelir fydd yn gynnar yn 2020; ac

·         aros am gael barn y deisebwyr am y sefyllfa bresennol.

 

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng NJgerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i gadw golwg ar y mater a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ymhen chwe mis.


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i:

·         ofyn am farn y grŵp ymgyrchu ar y datblygiadau diweddaraf cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ddarparu amserlenni dangosol ar gyfer cynnal yr ailasesiad.

 

 

 

 


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol – P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn y cyfarfod arfaethedig rhwng y rhanddeiliaid perthnasol.

 


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Sesiwn dystiolaeth – P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Cyfoeth Naturiol Cymru:

 

John Hogg   -        Pennaeth Gweithrediadau, Canol De Cymru

Tim England-       Noddwr Prosiect

Gavin Jones -        Rheolwr Prosiect

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Hogg, Tim England, Gavin Jones a Gareth O'Shea o Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Dywedodd staff Cyfoeth Naturiol Cymru y byddent yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y rhagolygon llifogydd sy'n gysylltiedig â Nant y Rhath.

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafodaeth yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i geisio trefnu cyfarfod rhwng yr holl randdeiliaid cyn y sesiwn dystiolaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar 27 Tachwedd.

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Lee Fisher

Sarah Jones

Nick Clifton

 

Ffrindiau Nant y Rhath

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Clifton, Lee Fisher a Sarah Jones.

 


Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd a chytunodd i drefnu i gymryd tystiolaeth lafar gan y grŵp ymgyrchu a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y mater hwn.

 

 

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Caerdydd a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

  • ofyn am ddiweddariad pellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r grŵp ymgyrchu o ystyried y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt gan y ddwy ochr, y gwaith ymgysylltu a gynlluniwyd gyda chartrefi sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y perygl o lifogydd ac ystyriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o'r cais i ymestyn yr oedi yn y gwaith ar hyn o bryd;
  • gofyn am wybodaeth gan Dŵr Cymru ynghylch ei gynlluniau yn ymwneud â Chronfa Ddŵr Llanisien.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

  • Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu'r cynigion a wnaed gan y deisebwyr a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau cyfredol, ac i ofyn am oblygiadau amgylcheddol codi neu ostwng dyfnder llyn Parc y Rhath i reoli perygl llifogydd; a
  • Chyngor Caerdydd i ofyn am ymateb i ohebiaeth flaenorol y Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi ymgyrchu ar y mater.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

 

  • CNC i ofyn am:
    • eu hymateb i gynnig y deisebwyr y dylai'r risg bresennol o lifogydd gael ei ailgyfrifo ar ôl cwblhau gwaith Cam 1 a 2;
    • manylion pellach am fethodoleg yr arfarniad opsiynau a gynhaliwyd yn ystod dylunio'r cynllun a chanlyniadau'r arfarniad hwnnw;
    • diweddariad ar y canlyniadau sy'n deillio o drafodaethau diweddar gyda'r gymuned leol; a
    • sut mae cynlluniau yn cael eu blaenoriaethu ar sail Cymru gyfan, yn enwedig gan ystyried barn y gymuned leol.

 

  • Cyngor Caerdydd i ofyn am eu barn ar yr awgrym y gallai dull arall ymwneud â chodi a gostwng uchder lefel y dŵr yn Llyn Parc y Rhath i reoli perygl llifogydd i lawr yr afon.