Cyfarfodydd

P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/12/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau: Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-799: Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd ac yn y chweched dosbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

 

·         rhoi'r dystiolaeth y mae wedi'i chasglu mewn perthynas â’r ddeiseb hyd yma i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gyfrannu at ei ymchwiliad i ‘Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru’; ac i

·         gau'r ddeiseb yn awr o ystyried y sylw manwl a gaiff ei roi i’r pwnc gan un o bwyllgorau eraill y Cynulliad. 

Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau'n dymuno diolch i'r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb ac am weithio mor ddiwyd gyda'r Pwyllgor i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn.

 


Cyfarfod: 09/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i:

 

  • ofyn am restr o'r ysgolion arloesi sy'n gweithio'n benodol ar elfen hanes y cwricwlwm newydd, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud; a
  • gofyn am ei barn ar sut y gallai'r cwricwlwm newydd sicrhau cydbwysedd priodol rhwng rhoi disgresiwn i ysgolion ac athrawon ar gynnwys gwersi, a sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn cael eu haddysgu am hanes cenedlaethol a lleol.  

 

 

 

 


Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Trafod y Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol - P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ceisio rhagor o wybodaeth gan ysgolion Arloesi sy'n gweithio gyda'r cwricwlwm hanes newydd; a
  • gofyn i'r deisebydd ac i'r Dr Elin Jones am eu meddyliau ynghylch tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Sesiwn dystiolaeth - P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

 

Claire Rowlands - Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm

 

John Pugsley - Pennaeth y Celfyddydau, y Gangen Dyniaethau a Llesiant

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Claire Rowlands, a John Pugsley.

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Trafod sesiynau tystiolaeth blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn ystod tymor yr Haf.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth – P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Elfed Wyn Jones, Deisebydd

 

Dr Elin Jones

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Deisebydd a Dr Elin Jones.

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-799: Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

gwahodd y deisebydd a Dr Elin Jones i sesiwn dystiolaeth lafar ar y ddeiseb cyn ystyried y posibilrwydd o gynnal dadl arall.