Cyfarfodydd

P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod bellach wedi bod yn beth amser ers i’r Pwyllgor dderbyn gohebiaeth gan y deisebydd ac felly mae’n anodd gweld sut y gellid symud y ddeiseb ymlaen ymhellach.

 


Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn a oes ffordd o drefnu cyfarfod rhwng y deisebydd a'r Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog.

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunodd i aros am farn y deisebydd am hynny, ac am Ddatganiad Ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet ar 23 Ebrill, cyn ystyried a ddylai gymryd rhagor o gamau mewn cysylltiad â'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

  • Ystyriodd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn:
    • am ddiweddariad yn dilyn y cyfarfodydd a gynlluniwyd ar gyfer mis Chwefror;
    • am ragor o fanylion am Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog; ac

o   a fydd cyfle i'r deisebydd ac eraill gyfrannu at drafodaethau ar y pwnc hwn.

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

aros am farn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.