Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ofyn i swyddogion ddechrau edrych ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a dychwelyd at y mater ymhen pythefnos i benderfynu a ddylid ei gyfeirio'n ffurfiol at bwyllgor i graffu arno.

 

 


Cyfarfod: 08/07/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Bil Masnach – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)

CLA(5)-22-19 – Papur 27 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, 28 Mehefin 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 


Cyfarfod: 10/06/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan Eluned Morgan AC at y Cadeirydd ynghylch y Bil Masnach - Cydsyniad Deddfwriaethol - 5 Mehefin 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1  Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Masnach

NDM7052 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried ymhellach gan Senedd y DU.

 

Gosodwyd ail Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

 

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Trade Bill 2017-19 — UK Parliament (Senedd yn unig)

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7052 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried ymhellach gan Senedd y DU.

Gosodwyd ail Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

4

41

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 20/05/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Papur i'w nodi rhif 1: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach (Memorandwm Rhif 3): Y Bil Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.1 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y Memorandwm atodol a bod y ddadl wedi'i threfnu ar gyfer 21 Mai. Roeddent yn cytuno, yng ngoleuni'r amserlen Seneddol, nad oedd amser i graffu mewn pwyllgor.

 

 

 


Cyfarfod: 13/05/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Bil Masnach - cydsyniad deddfwriaethol

CLA(5)-15-19 – Papur 16Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 7 Mai 2019

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

 


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch Bil Masnach y DU - Adroddiad MADY Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 25 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.1 Cytunodd yr Aelodau i ymateb i'r Gweinidog i geisio sicrwydd pellach ar gydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach.

3.5.2 Nodwyd y papur.

 

 


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Bil Masnach y DU – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

CLA(5)-13-19 – Papur 25 - Llythyr gan y Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, 25 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

 


Cyfarfod: 18/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Papur i'w nodi 4 - Gohebiaeth gan Eluned Morgan AC at y Cadeirydd ynghylch Bil Masnach y DU: Adroddiad EAAL Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 12 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4     Nodwyd y papur.

 

 


Cyfarfod: 12/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach

NDM6986 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Dogfennau'r Bil— Trade Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6986 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

5

48

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Amserlen ar gyfer trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Bil Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau a derbyniodd yr adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach.

 


Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i'w nodi 3 - Cydsyniad deddfwriaethol: y Bil Masnach - Gohebiaeth gan y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol i'r Cadeirydd ynghylch Bil Masnach y DU - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 15 Chwefror 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 04/03/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Masnach

CLA(5)-08-19 – Papur 71 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-08-19 – Papur 72 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

CLA(5)-08-19 – Paper 73 – Adroddiad Drafft

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i ystyried a chytuno ar y newidiadau terfynol y tu allan i'r Pwyllgor, er mwyn medru gosod yr adroddiad erbyn 11 Mawrth.

 


Cyfarfod: 19/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar y Bil Masnach

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 56

Cofnodion:

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar y Bil Masnach

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm atodol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 11 Mawrth (y diwrnod cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn) i ganiatáu'r amser hiraf posibl ar gyfer craffu.

 

 

 


Cyfarfod: 10/12/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor ar Graffu ar Reoliadau a wnaed o dan y Bil Masnach.

CLA(5)-32-18 – Papur 51 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

 


Cyfarfod: 15/10/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur 2 i'w nodi - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch craffu ar reoliadau a wnaed o dan y Bil Masnach - 8 Hydref 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nodwyd y papur.


Cyfarfod: 23/04/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: y Bil Masnach

CLA(5)-12-18 – Papur 10 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Bil Masnach, 16 Ebrill 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 12/03/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach: Adroddiad drafft

CLA(5)-09-18 – Papur 15 – Adroddiad drafft

CLA(5)-09-18 - Papur 16 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, 26 Chwefror 2018

CLA(5)-09-18 - Papur 17 – Adroddiad gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – papur i ddilyn

CLA(5)-09-18 - Papur 18 – Adroddiad y Pwyllgor ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael):Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 26/02/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Masnach - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 14/02/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Masnach.


Cyfarfod: 12/02/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Trafodaeth ar bolisi masnach yn y dyfodol a'i oblygiadau i Gymru: Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Emma Edworthy, Llywodraeth Cymru

Rachael Clancy, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach

 

Gwelliannau arfaethedig Llywodraeth Cymru i’r Bil Masnach (Saesneg yn unig)

 

Y Polisi Masnach: materion Cymru

 

Cofnodion:

Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.


Cyfarfod: 22/01/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru:Gwelliannau i Fil Masnach y DU a gynigiwyd gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru

CLA(5)-03-18 – Papur 8 - Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru:Gwelliannau i Fil Masnach y DU a gynigiwyd gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad.

 


Cyfarfod: 22/01/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Papur i'w nodi 1 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Y Bil Masnach

CLA(5)-28-17 – Papur 12 – Briff Ymchwil a Gwasanaethau Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y briff ymchwil a'r briff cyfreithiol.