Cyfarfodydd

Polisi Urddas a Pharch

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/12/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Diweddariad a Chanlyniadau Arolwg Urddas a Pharch

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4
  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi digwydd ers i'r Comisiwn ystyried adolygiad o'r fframwaith Urddas a Pharch ym mis Mehefin 2023, a chytunodd ar nifer o argymhellion, a chanfyddiadau'r arolygon Urddas a Pharch a gynhaliwyd yn ddiweddar o ran Aelodau, staff cymorth yr Aelodau a staff y Comisiwn.

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad cynnydd ar weithgarwch a gynhaliwyd ers mis Mehefin 2023 ac adroddiad ar ganlyniadau arolwg Urddas a Pharch 2023 y Senedd. Gofynnodd y Comisiynwyr i rywfaint o feincnodi gael ei gynnal a’u barn y byddai dealltwriaeth o arfer da o amgylcheddau seneddol eraill yn ddefnyddiol.

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid rhannu canfyddiadau'r arolwg Urddas a Pharch gyda'r Bwrdd Taliadau Annibynnol a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac y dylid cyhoeddi'r adroddiad ynghyd â gohebiaeth fewnol ac allanol briodol.

 


Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad Adolygu Urddas a Pharch

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad urddas a pharch.

Clywodd y Comisiynwyr am gynlluniau rhai grwpiau i orfodi cyfranogiad mewn hyfforddiant urddas a pharch a chytunwyd ar werth eirioli bod yr hyfforddiant a gynigir gan y Comisiwn yn cael ei gymryd gan yr holl Aelodau a'u staff yn ddieithriad.

Awgrymwyd y dylid ystyried urddas a pharch wrth i staff ryngweithio ar ddechrau ac ar ddiwedd eu cyflogaeth. Trafodwyd hefyd bwysigrwydd darparu gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bawb y mae materion sy'n gysylltiedig ag urddas a pharch yn effeithio arno, ac amlygwyd ei bod wedi bod yn ddefnyddiol pan oedd gwybodaeth yn cael ei harddangos yn gorfforol ar yr ystâd.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad, ei wyth argymhelliad a'r camau nesaf; yn benodol:

·       ailddatgan eu hymrwymiad i gefnogi a datblygu diwylliant o urddas a pharch ar draws y Senedd;

·       gwahodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd i ystyried canfyddiadau'r adolygiad, gan gynnwys y dylai'r Senedd roi Datganiad trosfwaol ar y cyd ar Urddas a Pharch yn lle’r polisi tair rhan presennol;

·       cytuno ar ddatganiad trosfwaol drafft ar y cyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Safonau;

·       camau i'w cymryd o fewn y Comisiwn ynghyd â chyfrifoldebau clir am arweinyddiaeth a gweithgareddau; ac

·       eirioli ymhlith eu grwpiau, a’r Aelodau annibynnol, fod yr hyfforddiant urddas a pharch a gynigir gan y Comisiwn yn cael ei gymryd gan yr holl Aelodau a'u staff yn ddieithriad.

Cytunodd y Comisiynwyr y byddai'r adroddiad yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a fyddai'n cyhoeddi'r adroddiad fel rhan o'i waith ar y mater hwn, y Comisiynydd Safonau, y Bwrdd Taliadau a'r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol.


Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Polisi Urddas a Pharch - adolygiad tair blynedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i'r Comisiynwyr am waith a ddechreuwyd i gynnal adolygiad ym mlwyddyn tri o Bolisi Urddas a Pharch y Senedd, yn unol â'r ymrwymiad yn y polisi.

Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnal ymarfer ymgynghori ddechrau 2022 a fydd yn gofyn i Aelodau, eu staff cymorth a staff y Comisiwn am eu barn am y polisi a'r broses gyfredol.

Gwnaethant gytuno hefyd i ohirio'r arolwg Urddas a Pharch blynyddol 12 mis tan fis Mai/Gorffennaf 2022 unwaith y caiff polisi wedi'i adnewyddu ei gytuno.


Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Urddas a Pharch - adroddiad ar yr arolwg

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17
  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr gynnwys y trydydd adroddiad sy’n adolygu perfformiad yn erbyn ymrwymiad y Senedd i Urddas a Pharch, yn dilyn arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020. Wrth wneud hynny, cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n amserol adolygu'r polisi yn ei gyfanrwydd – yn barod ar gyfer y Chweched Senedd yn enwedig – ac ochr yn ochr â gwaith y Pwyllgor Safonau o adolygu'r Cod Ymddygiad. At hynny, cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth i feysydd gwaith y dyfodol sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar ôl ei gwblhau.


Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Diweddariad ar Urddas a Pharch

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r arolwg Urddas a Pharch a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fe wnaethant drafod y duedd gadarnhaol ac roeddent yn gefnogol i'r cynlluniau i lansio ymgyrch 'hawl i herio', gan gytuno i roi eu cefnogaeth bersonol. Trafodwyd pwysigrwydd rhoi hyder i bobl ar bob lefel ddeall lle mae ymddygiadau yn amhriodol.

 


Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Y wybodaeth ddiweddaraf am Urddas a Pharch

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir'. 

Nododd y Comisiynwyr hefyd y bydd yr Arolwg Urddas a Pharch blynyddol nesaf yn cael ei anfon at Aelodau'r Cynulliad, eu staff a staff y Comisiwn ar ôl toriad y Pasg.       

Trafododd y Comisiynwyr sut yr oeddent am ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Safonau i ganiatáu i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw.  Cytunwyd y byddent yn ailystyried y mater yn dilyn yr arolwg Urddas a Pharch sydd ar y gweill.

Trafodwyd hefyd ganlyniadau'r ymarfer ‘siopa dirgel’ a gynhaliwyd ddiwedd 2018, a nodwyd y wybodaeth a ddaeth i law.

Cytunodd y Comisiynwyr i ymateb i'r Pwyllgor yn nodi'r penderfyniad i ailystyried yr argymhelliad i ganiatáu i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw, a rhannu'r tabl diweddaru a'r adroddiad ar yr ymarfer siopa dirgel, gan ddisgwyl y bydd yr ymateb hwn yn cael ei gyhoeddi.

 

 


Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad y Pwyllgor Safonau - Creu'r Diwylliant Cywir

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26
  • Cyfyngedig 27
  • Cyfyngedig 28
  • Cyfyngedig 29

Cyfarfod: 16/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar bolisi Urddas a Pharch y Cynulliad

NDM6724 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. Yn nodi'r canllawiau ar gyfer polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Canllawiau cysylltiedig ar ymddygiad amhriodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(ii), cynhaliwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon yn ystod y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6724 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. Yn nodi'r canllawiau ar gyfer polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

2

0

54

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cynllun gweithredu urddas a pharch