Cyfarfodydd
NDM6578 Dadl: Entrepreneuriaeth: Pwrpas Cenedlaethol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Entrepreneuriaeth: Pwrpas Cenedlaethol
NDM6578 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig
yn allweddol i Gymru o safbwynt creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod
gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol
o safbwynt creu’r amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhwydwaith o
ganolbwyntiau entrepreneuraidd ym mhob rhan o Gymru.
Yn cynnig defnyddio’r cronfeydd trafodiadau ariannol
newydd a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU i greu cronfa fuddsoddi
busnesau bach a chanolig newydd ar gyfer Banc Datblygu Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff arloesi
cenedlaethol penodedig, fel partneriaeth rhwng busnes, llywodraeth a’r byd
academaidd i gynyddu lefelau datblygu o ran cynhyrchion newydd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6578 Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod
entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt
creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn
partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r
amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi mewn rhwydwaith o ganolbwyntiau entrepreneuraidd ym mhob rhan
o Gymru.
Yn cynnig defnyddio’r
cronfeydd trafodiadau ariannol newydd a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU
i greu cronfa fuddsoddi busnesau bach a chanolig newydd ar gyfer Banc Datblygu
Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sefydlu corff arloesi cenedlaethol penodedig, fel partneriaeth rhwng
busnes, llywodraeth a’r byd academaidd i gynyddu lefelau datblygu o ran
cynhyrchion newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
25 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
NDM6578 Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod
entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt creu
gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn
partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r
amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.