Cyfarfodydd

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/09/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

NDM6780 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i'r Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 12 Medi 2018.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

NDM6780 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i'r Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 09/05/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trafod yr adroddiad drafft - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-11-18(p4) Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft


Cyfarfod: 25/04/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch y sefyllfa o ran parcio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr


Cyfarfod: 19/04/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Trafod yr adroddiad drafft: Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 – Craffu ar ôl Deddfu

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-09-18(p10) Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft


Cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 – Craffu ar ôl ddeddfu

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Rhodri Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Natalie Grohmann, Arweinydd Tîm Polisi Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

7.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi nodyn briffio cynhwysfawr i'r Pwyllgor ynglŷn â pharcio ar y palmant


Cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llywodraeth Leol - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Craig Mitchell, Pennaeth Cefnogi Gwastraff, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Matthew Price, Arweinydd Adran (Gweledigaeth, Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth), Gweithrediadau’r Ddinas, Cyngor Caerdydd

Gail Bodley-Scott, Arweinydd Adran (Gweledigaeth, Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth), Gweithrediadau’r Ddinas, Cyngor Caerdydd

Vincent Goodwin, Swyddog teithio, Cyngor Sir Powys

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

6.2 Cytunodd Craig Mitchell i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

  • Y cyfyngiadau o ran cyflwyno Teithio Llesol trwy'r Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif
  • Faint o seilwaith teithio llesol sydd wedi cael ei adeiladu yng Nghymru ers y Ddeddf, a sut mae cyfraddau adeiladu yn cymharu â'r cyfnod cyn y Ddeddf
  • Ymgynghori â grwpiau anabledd ar draws awdurdodau lleol
  • Hyrwyddo Teithio Llesol ar draws awdurdodau lleol

Cyfarfod: 15/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Bike Life Caerdydd 2017 a Bike Life Bryste 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur


Cyfarfod: 15/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Dr Julie Bishop (Cyfarwyddwr Gwella Iechyd / Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd), Iechyd Cyhoeddus Cymru

Huw Brunt, Ymgynghorydd Arweiniol mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Tom Porter, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd, tîm iechyd cyhoeddus lleol Caerdydd a'r Fro / Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Dr Julie Bishop, Dr Tom Porter a Huw Brunt gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor


Cyfarfod: 15/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Grwpiau anabledd - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Rhian Stangroom-Teel, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus (Cymru), Leonard Cheshire Disability

Joshua Reeves, Yn cymryd rhan yn y rhaglen Can Do gyda Leonard Cheshire Disability

Kevin Rahman-Daultrey, Uwch Swyddog a chydlynydd TG, Pedal Power

Elin Edwards, Rheolwr Materion Allanol (Cymru), RNIB Cymru

Andrea Gordon, Rheolwr Ymgysylltu, Cŵn Tywys Cymru

Cofnodion:

8.1 Atebodd Rhian Stangroom-Teel, Joshua Reeves, Kevin Rahman-Daultrey, Elin Edwards ac Andrea Gordon gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor


Cyfarfod: 07/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Amgylchedd adeiledig - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Simon Shouler, Rheolwr y Gymdeithas Ymgynghoriaeth a Pheirianneg (ACE) yng Nghymru, ACE Cymru Wales

Robert Jones, Cynllunydd Trafnidiaeth Cyswllt gyda WSP Consultants, Aelod o Gymdeithas Ymgynghoriaeth a Pheirianneg Cymru (ACE)

Martin Buckle, Ymgynghorydd Cynllunio, Trafnidiaeth ac Adfywio Annibynnol / Cadeirydd, Fforwm Cynllunio Polisi ac Ymchwil Cymru

Mark Farrar, Cyfarwyddwr Cynllunio, The Urbanists Ltd (Yn cynrychioli y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Simon Shouler, Robert Jones, Martin Buckle a Mark Farrar gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 07/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymgyrchwyr - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Rachel Maycock, Rheolwr Cymru, Living Streets Cymru

Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Sustrans Cymru

Ryland Jones, Pennaeth Amgylchedd Adeiledig, Sustrans Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Rachel Maycock, Steve Brooks a Ryland Jones gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor


Cyfarfod: 07/12/2017 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Papur cwmpasu - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl deddfu

Dogfennau ategol:

  • Papur cwmpasu

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y papur