Cyfarfodydd

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2015-16 a’r Amcangyfrif ar gyfer 2017-18

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/11/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Amcangyfrif incwm a threuliau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft â mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 03/11/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Amcangyfrif incwm a threuliau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Garner - Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol

Steven O’Donoghue – Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol

 

Papur 1 – Swyddfa Archwilio Cymru - amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2017-18

Papur 2 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2015-16

Papur 3 - Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad terfynol ar ganfyddiadau'r archwiliad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016

Papur 4 - Swyddfa Archwilio Cymru Cynllun Blynyddol 2016-17 - Gan gynnwys gwybodaeth ychwanegol am ein blaenoriaethau a’n strategaeth tair blynedd

Papur 5 - Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Interim - Asesiad o’r cynnydd a wnaethpwyd yn erbyn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2016-17 yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2016

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Isobel Garner, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru; a Steven O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru.


Cyfarfod: 03/11/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Amcangyfrif incwm a threuliau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.